Cymdeithas Celf y Merched
Ym Mis Hydref 2013, mae oriel celf gyfoes MOSTYN yng Ngogledd Cymru (DU) yn lansio cyfres o arddangosfeydd sy'n archwilio a chyflwyno treftadaeth adeilad MOSTYN, a chaiff ei ddangos ynghyd â gweithiau celf gan nifer o artistiaid cyfoes sydd â chysylltiad â'r dreftadaeth hon.
Cymdeithas Gelf y Merched yw'r arddangosfa gyntaf yn y gyfres sy'n edrych ar hanes MOSTYN a sut mae'r hanes hwnnw wedi ei blethu â digwyddiadau y tu hwnt i'w gyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r arddangosfa gyntaf hon yn teithio'n ôl i ddechreuad MOSTYN. Agorwyd Oriel Gelf Mostyn ym 1902 ac fe'i comisiynwyd a'i hadeiladwyd gan y Foneddiges Augusta Mostyn er mwyn arddangos gwaith y Gwynedd Ladies' Art Society oedd wedi eu gwrthod rhag ymuno â chymdeithasau celf lleol, oedd yn cael eu rheoli gan ddynion, ar sail eu rhyw. Dyma'r oriel gelf gyntaf yn y byd i gael ei hadeiladu'n benodol er mwyn rhoi cartref i waith arlunwyr benywaidd.
Mae Cymdeithas Gelf y Merched yn parhau ac yn diweddaru ysbryd y Ladies' Arts Society wreiddiol trwy ddangos gweithiau celf diweddar a chyfoes sy'n ymwneud â pholitics rhyw, hunaniaeth a rheoleiddiad, a materion o waharddiad a rhagfarn. Ochr yn ochr â'r gwaith cyfoes bydd arddangosfa o arteffactau, dogfennaeth a gwaith celf o'r Ladies' Arts Society wreiddiol. Mae datganiad wedi ei wneud yn lleol ac mae tîm yr oriel yn gobeithio y bydd pobl yn dod atom gyda'u heitemau diddorol ac atgofion teuluol o'r cyfnod.
Supported by:
Ystadau Mostyn.