David Nash
Mae’r tymor newydd yn agor ym Mostyn gyda’r cyflwyniad sylweddol cyntaf o weithiau gan David Nash i’w gweld yn y Mostyn ers ugain mlynedd.
Mae’n cyflwyno cenhedlaeth newydd i waith un o’r cerflunwyr mwyaf uchel ei barch sy’n gweithio heddiw. Drwy ddetholiad unigryw o gryn ddau ddeg pump o weithiau, pedwar wedi eu gwneud yn arbennig i’r cyflwyniad yma, â’r gwaith yn ymestyn drwy holl lawr isaf yr oriel, Coch, Du, Arall yw’r arddangosfa gyntaf i wneud asesiad o natur lliw yn ei waith.
Mae David Nash wedi cynhyrchu tri casgliad o brintiadau nifer cyfynedig i gyd-fynd â Coch, Du, Arall fydd ar gael yn siop Mostyn yn unig. Mae catalog clawr caled llawn lliw i’r arddangosfa ar werth am bris arbennig o £10.
Cefnogywd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a Chyfreithwyr Gamlins