Diango Hernandez

Exhibition

Diango Hernandez

Ynysoedd Amser ac Ynysoedd Gofod
14 Tachwedd - 8 Mai 2016

Mae MOSTYN yn falch o gyflwyno'r arddangosfa unigol gyntaf, mewn sefydliad yn y DU, gan yr artist o Giwba sydd nawr wedi ymgartrefu yn Nüsseldorf, Diango Hernandez un o'r prif artistiaid cysyniadol cyfoes o Dde a Chanolbarth America.

Yn cynnwys gweithiau hen a newydd, a chan ddefnyddio ei brofiadau o'i fagwraeth yng Nghiwba, mae arddangosfa Hernandez yn trwytho'r profiadau hynny gyda gogwydd Gorllewinol.

Mae'r sioe yn cynnwys, ymysg pethau eraill, murlun gofod-benodol; cyfres o gerfluniau o ffrwythau a hen ddodrefn; gwaith ar gynfas a phapur gydag argraffu offset; ac adeiladwaith bregus o ddur rhydlydcynrychioliad rhifol o'r blynyddoedd 1959 i 2008 mewn trefn ddisgynnol.

Cynhyrchir yr arddangosfa ar y cyd â'r Marlborough Contemporary, Llundain a Federico Luger Gallery, Milan.

 

Downloads: