Dilomprizulike
Cyflwyno’r anhyflwynedig; gwerthuso’r diwerth; gwerthfawrogi’r dibrisiedig; mynd â’r crwydriaid i mewn; cofleidio’r anghyffwrddadwy: dyma’r Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith fel y disgrifiwyd gan ei grewr, yr hunan-ffurfiwyd Ddyn Jync o Afrika. Fel Dilomprizulike, galwyd ef gan bapur newydd yr Independent fel un o hanner cant o gymeriadau diwylliannol mwyaf a ffurfiodd ei gyfandir brodorol. Bydd y Dyn Jync yn treulio cyfnod preswyl o dri mis yn Mostyn yn adeiladu ei Amgueddfa Iard Jync, y tro cyntaf iddi gael ei gweld y tu allan i Nigeria.
Mae’r ‘amgueddfa’ unigryw hon wedi cael ei disgrifio fel rhyw fath o ‘ysbyty atistig’ lle mae’r peth a daflwyd yn cael ei ddadebru a rhoi ail fywyd iddo mewn celfyddyd. Yn ogystal â chyffwrdd â materion ecolegol, mae Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith yn adlewyrchiad o synnwyr pobl o ymwrthod â’u synnwyr o fod yn ynysig mewn cymdeithas o ddefnyddwyr sy’n gwerthfawrogi tafladwyaeth. Mae defnyddio pethau a daflwyd yn creu rhyw soniaredd artistig yn Affrica, ac mae Dilomprizulike yn un o’r rhai mwyaf cradigol o’r rhai sydd yn gwneud eu gwaith celf allan o falurion eu cyfandir.
Gan ddefnyddio pethau y bydd yn eu darganfod yn lleol, a thrwy weithio gyda grwpiau addysg a’r cyhoedd, bydd yr artist yn adeiladu yr Amgueddfa Iard Jync yn ystod cyfnod preswyl o dri mis yn dechrau yn gynnar ym mis Mai, cyn i Mostyn agor. Bydd y gosodiad yn cael ei wneud mewn gofod newydd yn yr oriel, yn agos i siop nodedig Mostyn, mewn cyfosodiad â’r hysbyseb, a fydd yn rhoi iddo ddwysder ychwanegol, ac a fydd yn tanlinellu gwahanol agweddau diwylliannol tuag at dreuliant a pherchnogaeth gwrthrychau.
Yn dilyn gorffen y gosodiad a diwedd preswyliad y Dyn Jync o Afrika, bydd y gwaith yn parhau i gael ei arddangos hyd 16eg Hydref.
Supported by:
Cefnogir Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith gan sefydliad Henry Moore a Chyngor Celfyddydau Cymru.