Exhibition
Dwelling
Caru Fideo
10 Hydref - 4 Rhagfyr 2010
Mae ein cyfres cyfredol Caru Fideo yn gyfle i ddal fyny hefo rhai gweithiau fideo diddorol o’r ddegawd diwethaf, fwy neu lai – neu i ddod i garu fideo am y tro cyntaf.
Hiraki Sawa yn y ffilm atyniadol yma rydym yn cael mynediad ac yn cael ein tywys o gwmpas fflat yr artist. Fe’i gwelwn yn esblygu yn araf i fod yn dirlun mewnol lle mae dwsinau o awyrennau jet yn glanio, codi a theithio drwy’r stafelloedd. Mae’r byd-eang â’r personol yn chwarae yn erbyn ei gilydd fel mae’r ffilm, sy’n procio’r meddwl, yn mynd rhagddi.