Eliffant: Synhwyro Ni

Exhibition

Eliffant: Synhwyro Ni

12 Mawrth - 17 Ebrill 2022

Ar benwythnos cyntaf mis Mawrth, croesawodd y Gofod Prosiect Eliffant a’r artist fentor Sam Metz ar gyfer preswyliad mini 2 ddiwrnod o sgyrsiau a gweithdai cydweithredol.

Mae’r gosodiad yn cynnwys dodrefn hygyrch wedi’u cyd-ddylunio ochr yn ochr ag arddangosfa o weithiau aml-gyfrwng gan Eliffant, a gynhyrchwyd trwy weithdy Lluniadu fel Stimmio dan arweiniad Metz.

Eliffant yw hunaniaeth gyfunol yr artistiaid Leila Bebb, Siân Healey, Ceridwen Powell a Dr Sara Louise Wheeler a ffurfiodd trwy Brosiect Creativity is Mistakes Disability Arts Cymru.

Mae Creativity is Mistakes yn brosiect Cyngor Celfyddydau Cymru: Cysylltu a Ffynnu a arweinir gan Disability Arts Cymru. Mewn partneriaeth â MOSTYN, Artes Mundi, g39 a Venture Arts, mae’r rhaglen yn ceisio cysylltu artistiaid anabl, b/Byddar, a niwro-ddargyfeiriol ag orielau a sefydliadau celfyddydol ledled Cymru i wella mynediad ac amlygrwydd artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol a datblygu cyfleoedd newydd.

Sioe sleidiau fideo o’r lluniau a wnaethpwyd gan yr Artistiaid Eliffant, fel rhan o arddangosfa Eliffant: Synhwyro Ni ym MOSTYN.

Downloads: