Elisabetta Benassi: EMPIRE
Mae EMPIRE gan Elisabetta Benassi yn osodiad o friciau teracota wedi’u gwneud â llaw yn y DU. Cawsant eu gwneud o glai sy’n amrywio o goch i ddu ei liw. Mae'r briciau wedi’u ffurfweddu fel gosodiadau penodol i safle – mae maint, siâp ac edrychiad pob un wedi’u pennu gan ei pherthynas â’r lleoliad; strwythurau hunangynhaliol wedi’u hadeiladu heb briddgalch mewn cydffurfiad sy’n gynhenid sefydlog. Pwnc y gwaith ydy craidd y berthynas rhwng mannau hynafol, treftadaeth archaeolegol a’r amgueddfa gyfoes.
Mae EMPIRE yn trawsnewid yr uned adeiladu sylfaenol, y fricsen Rufeinig, ag ystyr symbolaidd ac esthetig newydd.
Mae’r gwaith yn cael ei arddangos yn y DU am y tro cyntaf yn MOSTYN ac yn Sefydliad Diwylliant yr Eidal, cyn teithio i amrywiol leoliadau yn Rhufain.