Fernando Garcia-Dory
Wedi ei wahodd i wireddu prosiect ym MOSTYNfel rhan o Artes Mundi 5 mae Fernando Garcia-Dory yn adlewyrchu ac yn atseinio gwaith Radovan Kraguly drwy adeiladu model wrth raddfa o un o luniadau cynnar Kraguly o’r 1990au ar gyfer Amgueddfa Laeth.
Bydd yr adeiledd dros dro yn cynnal amgueddfa o fewn yr oriel, yn yr achos hwn wedi ei guradu gan ffermwyr llaeth lleol a wahoddwyd i gyfrannu rhai o’u gwrthrychau, testunau neu eitemau arwyddocaol eraill. Daw yn lwyfan gweithiol neu’n blatfform ar gyfer cyfarfodydd a thrafodaethau ar sefyllfa argyfyngus bresennol ffermio llaeth a materion gwledig eraill.
Bydd aelodau o glybiau Ffermwyr Ieuainc lleol yn cael eu gwahodd i fabwysiadu’r adeiledd dros-dro fel catalydd i’w ddefnyddio ar gyfer eu gweithgareddau a digwyddiadau, a llwyfan ar gyfer darlledu teledu byw.
Bydd Fernando Garcia-Dory hefyd yn cyfrannu fideo ar fywyd Radovan Kraguly a rhai lluniadau wedi eu hail-greu. Bydd modd gweld cyflwyniad i arddangosfa Radovan Kraguly o 22 Medi.