Flooded McDonalds
Flooded McDonald's gan Superflex ar Vimeo.
Dyma far byrger McDonald’s, yn barod i ddarparu ei fwyd parod, ond mae pawb wedi gadael. Dŵr yn diferu o dan y drws, gan ffurfio pwll ymestynnol, yn codi. Wrth i’r dŵr godi mae’r hambyrddau yn disgyn oddi ar y byrddau, mae’r gwaith trydan yn siortio, cwpanau plastig a malurion eraill yn troi yn y llif, Ronald McDonald llorweddol yn dowcio yn syn o gwmpas ei diriogaeth unig. Yn y diwedd, o dan ddŵr yn llwyr, mae cadeiriau fel ysbrydion yn arnofio ymysg y casgliad o weddillion o’r bar bwyd parod.Mae gennym far McDonald’s dan ddŵr.
Mae McDonald’s Dan Ddŵr yn pryfocio’r meddwl, yn brydferth ac weithiau’n argoelus, ac yn dangos golwg newydd ar faterion megis newid hinsawdd a prynwriaeth, a hon yw’r cyflwyniad cyntaf yng Nghymru o waith cyfunol Danaidd Superflex. Dros y pymtheng mlynedd a aeth heibio, mewn prosiectau ar draws y byd, mae eu hymwybyddiaeth economegol a gwleidyddol wedi arwain at osodiadau graddfa-fawr, prosiectau proses-sefydlog, tymor-hir fel gosod planhigyn bach bio-gas yn Tanzania wledig, cyhoeddiadau, ac yn fwy diweddar, ffilm.
Mae effaith McDonald’s Dan Ddŵr yn ddiollwng, a’r gwaith ei hun yn meddu ar rhyw harddwch annisgwyl. Yr un pryd, mae’n fyfyrdod meddylgar ar gyfalafiaeth byd eang a pherthynas â materion ecolegol o natur mwyaf hanfodol, gan ddangos cenhedlaeth ieuengach o artistiaid heb ofn ymgymryd â materion pwysig ein hoes ni.
Comisiynwyd McDonald’s Dan Ddŵr gan Mostyn, Oriel De Llundain, Amgueddfa Celfyddyd Fodern Louisiana (Denmarc),gyda chefnogaeth hael gan y Sefydliad Ffilm Danaidd. Cyfarwyddwyd gan Tuan Andew Nguyen a Superflex.
Cefnogir yr arddangosfa gan y Bwyllgor Celfyddyd Weledol Cyngor Celfyddydau Danaidd a Llysgenhadaeth Frenhinol Denmarc.
Supported by: