Franco Vaccari
Mae MOSTYN | Cymru yn falch o gyflwyno arddangosfa unigol o waith yr artist o’r Eidal, Franco Vaccari.
Ers yr 1960au mae Franco Vaccari wedi bod yn gweithio ar bractis sy’n gysyniadol, awenol, ac mae ymysg y cyntaf o draddodiad hirhoedlog ble mae’r gwyliwr yn allweddol.
Mae’r arddangosfa hon ym MOSTYN yn dod â darnau o waith at ei gilydd o blith rhai mwyaf adnabyddus yr artist. Bydd yn nodweddu ei agwedd unigryw tuag at greu celf sy’n gosod yr amodau ar gyfer digwyddiad heb bennu’r canlyniadau. Trwy wneud hyn, bydd yr arddangosfa’n taflu goleuni ar rai agweddau o’i waith – megis y portread a’r newid mewn ymddangosiad bodau dynol – sydd heb eu harchwilio i’r eithaf o’r blaen mewn cyflwyniad unigol o’i waith.
Mae Leave on the Walls a Photographic Trace of Your Fleeting Visit (1972), sydd wedi ei gynnwys yn yr arddangosfa, yn llwyr nodweddu ysbryd practis Vaccari. Fe’i crewyd ar gyfer Venice Biennale 1972, ac yn wreiddiol, cafodd caban Photomatic ei gynnwys a’i arddangos yng ngofod yr oriel gyda chyfarwyddyd mewn pedair iaith (o fewn teitl y gwaith) oedd yn ysgogi’r gynulleidfa i ddefnyddio’r caban cyn gosod eu stribed ffotograffig nhw ar y wal. Olynodd Vacari’r gwaith hwn gydag ail fersiwn yn 2010 a gynhyrchodd ar gyfer Biennale Gwangju, gyda’r union amodau ag o’r blaen. Fel yn y rhifyn blaenorol, roedd yn annog cyfranogiad y gynulleidfa, ac i’r mynychwyr gyfrannu at furlun ymchwyddol, blerdyfol oedd, yn y pen draw, yn creu portread, nid yn unig o’r gynulleidfa ond o’r weithred o’r arddangosfa ei hun. Mae’r arddangosfa hon ym MOSTYN yn cyflwyno detholiad o’r nifer fawr o stribedi ffotograffig a gynhyrchwyd yn ddwy fersiwn gynharach – cafwyd rhyw 6000 ym 1972 yn unig.
Darn arall pwysig gan Vaccari sydd wedi ei gynnwys yn yr arddangosfa hon yw Photomatic D’Italia (1972-4), a ddatblygwyd i olynu’r darn yn Venice. Yn deillio o wahoddiad gan Lywodraeth yr Eidal i ddefnyddio pob caban Photomatic yn yr Eidal – rhyw 1,000 o gabanau i gyd – roedd y darn hwn yn galluogi ei ymchwiliad cynharach i ymadael â chyfyngiadau gofod yr oriel, gan fentro i’r byd cyhoeddus a bod ar gael i’w ddefnyddio trwy gydol y dydd a’r nos.
Yn ogystal â‘r gweithiau hyn, bydd arddangosfa o lyfrau Vaccari, sydd yn gatalogau o brosiectau cynharach ac yn ddarnau o gelf ynddynt ei hunain.
Cynhelir yr arddangosfa hon yn Orielau 2 a 3 ymMOSTYN ac mae’n gweithredu fel gwrthbwynt i’r arddangosfa grŵp ‘Annwyl Bortread’ a’r arddangosfa unigol gan Annette Kelm. Mae’n rhan o gyfres o arddangosfeydd ym MOSTYN sy’n cynnig gogwyddau gwahanol ar yr un pwnc, o’r dealltwriaethau traddodiadol o’r pwnc i un mwy eang, arlliwiol, gyda’r tri a ddisgrifwyd yma’n canolbwyntio ar genre clasurol y portread.
Ynglŷn â‘r Artist
Ganwyd Franco Vaccari ym 1936 ym Modena, yr Eidal. Astudiodd y gwyddorau gan raddio mewn ffiseg cyn mynd yn artist. Mae ei waith wedi ei arddangos mewn pedair Gŵyl Eilflwydd yn Fenis (1972, 1980, 1993, 1995) ac wedi’i gyflwyno yn y Centre Pompidou ym Mharis a MoMA, PS1 yn Efrog Newydd, ymysg eraill. Yn ogystal, mae wedi ennill ei blwyf fel beirniad ac awdur, ac mae’n adnabyddus am ei draethodau beirniadol ar ffotograffiaeth.
About the Artist
Franco Vaccari was born in 1936, in Modena, Italy. He studied sciences and graduated in physics before becoming an artist. His work has been shown at four Venice Biennales (1972, 1980, 1993, 1995) and presented at the Centre Pompidou in Paris and MoMA, PS1 in New York, among numerous others. In addition, he is also an established critic and writer, and known for his critical essays on the subject of photography.