Gennym ni Bost
Gennym ni Bost yw’r ail arddangosfa mewn cyfres sy’n astudio hanes MOSTYN a’i adeilad, a sut mae’r hanes hwnnw’n clymu i ddigwyddiadau y tu hwnt i’w gyd-destun, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r arddangosfa hon yn ymateb i gyd-destun ei lleoliad, sef hen swyddfa ddidoli post y cafodd orielau MOSTYN eu hehangu iddi yn 2010.
Bydd Gennym ni Bost, a fydd yn cynnwys pedair arddangosfa rhwng nawr a 2017, yn cyflwyno rhai o’r enghreifftiau gorau o artistiaid ac arlunweithiau sydd wedi defnyddio post, yn ogystal ag achosion diweddar o’i ddefnydd.
Mae’r arddangosfa gyntaf hon yn cyflwyno gwaith gan Robert Barry, Gabriele De Santis, Jan Dibbets, Ane Mette Hol, Jonathan Monk* a Kirsten Pieroth. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cyflwyno arteffactau, dogfennau ac effemera gwreiddiol o ddefnydd blaenorol yr oriel fel swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol a hefyd o hanes y Post Brenhinol ei hun. Bydd detholiad o ddeunydd arddangos o arddangosfa Designs on Delivery – Posteri GPO rhwng 1930 a 1960 gan Wasanaeth Amgueddfeydd ac Archifau’r Post Brenhinol – i’w weld yn yr oriel, ffotograffau o archif y Post Brenhinol a chasgliad o stampiau o’r gorffennol i’r presennol.
Mae llyfryn yn cyd-fynd â’r arddangosfa ac yn cynnwys testun gan guradur yr arddangosfa, Adam Carr (Curadur y Rhaglen Celfyddydau Gweledol) a thestun gan Gyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti.
*Ar gyfer achlysur yr arddangosfa hon, mae Jonathan Monk wedi creu darn newydd yn benodol ar gyfer MOSTYN. Y teitl yw ‘Picture Post Card Posted From Post Box Pictured’ ac mae’n rhan o gyfres o gardiau post sydd, hyd yma, yn cynnwys rhai sydd wedi’u gwneud ar gyfer lleoliadau yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel a Pharis. Mae pob fersiwn yn y gyfres yn cynnwys llun o’r blwch post agosaf at yr oriel, y sefydliad neu’r siop lyfrau y mae wedi’i gynhyrchu ar ei gyfer. Ar ôl prynu’r cerdyn post, bydd yr artist yn ysgrifennu’r cyfeiriad a’r neges y byddai’r prynwr yn ei hoffi, a hefyd ei lofnod. Wedyn bydd y cerdyn post yn cael ei bostio o’r blwch postio sydd yn y llun ar y cerdyn post. Yn achos MOSTYN, mae hwn drws nesaf i’r adeilad.
Mae ar gael am £40. I brynu, cysylltwch â [email protected]