Gennym ni Bost III
Mae Gennym ni Bost III yn un o arddangosfeydd Cyfres Hanes MOSTYN sy'n ymateb i gyd-destun gofodol sioeau, yn yr achos hwn, cyn swyddfa ddidoli'r Post Brenhinol y mae orielau MOSTYN wedi ehangu iddo ers 2010.
Mewn arddangosfeydd blaenorol, cafwyd cip olwg ar hanes y Post Brenhinol, gan gyflwyno hefyd y cerdyn post a'r cyswllt gyda thref Llandudno fel cyrchfan glan y môr, a gwaith celf gan artistiaid yn cyfeirio at y gwasanaeth post ledled y byd.
Canolbwynt y trydedd arddangosfa Gennym Ni Bost yw Swyddfa Bost Llandudno, drws nesaf i'r oriel, sydd wedi darparu gwasanaeth cymunedol ers agor ym 1904. Mae gweithwyr y post yn rhannu eu straeon ochr yn ochr â gwaith newydd gan artistiaid cyfoes. Bydd y gweithiau celf yn cael eu hanfon i MOSTYN trwy wasanaeth y post ac yn cael eu gweld am y tro cyntaf pan gant eu hagor gan y curadur.
Ynglŷn â'r Gyfres Hanes
Trwy gyfuniad o destun hanesyddol, gwrthrychau a delweddau, a gwaith gan artistiaid cyfoes, mae pob arddangosfa yn y gyfres yn arsylwi cyfnod penodol yn hanes adeilad MOSTYN. Y bwriad yw cynnig cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â gorffennol MOSTYN, ac i'r gymuned leol archwilio'i hanes ei hun. Mae defnyddiau blaenorol yr adeilad yn cael eu defnyddio fel mannau cychwyn i ddarganfod llwybrau newydd i wneud a chyflwyno arddangosfeydd, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.
Supported by:
Mae'r Loteri Genedlaethol yn ariannu arddangosfeydd 'Cyfres Hanes' trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.