Ha Ha Road

Exhibition

Ha Ha Road

3 Rhagfyr - 11 Mawrth 2012

Gan archwilio hiwmor mewn celfyddyd gyfoes mae Ha Ha Road yn cyflwyno gwaith artistiaid sy’n chwarae gyda’r ‘rhwyg mewn rheswm’.

Artistiaid a gyflwynir yn yr arddangosfa:
Boris Achour, Chantal Akerman, Bobby Baker, Dave Ball, Anna + Bernhard Blume, Stella Capes, Yara El Sherbini, Fischli + Weiss, Ceal Floyer, Rodney Graham, Ellie Harrison, Debbie Lawson, Mike Marshall, Kirsten Pieroth, Pipilotti Rist, Mathew Sawyer, Ariel Schlesinger, Hank Schmidt in der Beek, Michael Shaw, Roman Signer, Charles Stankievech, Annika Ström, Bedwyr Williams, Dan Witz, Erwin Wurm

Gyda’r teitl yn dod o enw stryd, mae’r arddangosfa yn chwarae gyda ystyr dwbl y geiriau. Ar wahan i’r cysylltiad gyda chwerthin, mae “ha-ha” hefyd yn cyfeiro at fath o derfyn guddedig; wal neu ffens wedi ei osod mewn ffos, gan greu ffîn anweledig yn y tirlun tra’n diogelu’r olygfa hardd. Mae’r ffîn anweledig yma yn drosiad teilwng am ein perthynas gyda byd o chwerthin.

Yn rhyfedd o ddiwahanol o faes cyfarwydd normalrwydd, mae jôc yn mynd a ni i rywle lle mae ystyr yn torri lawr, lle mae’r cyfarwydd yn cael ei droi ben i waered, llae mae’r cyffredin yn mynd yn anghyffredin, a lle mae’r byd yn golygu rhywbeth gwahanol. ’Does dim wedi newid ac eto mae popeth yn wahanol. Dyma gyflwr baradocsaidd hiwmor, a ffynhonnell ei bŵer dinistriol.

Mae’r arddangosfa’n archwilio beth olyga i gamu dros y rhwystr yma gan droedio i fyd afresymol ac anesboniadwy hiwmor. Mae’r gweithiau celf ddetholwyd yn arddangos sut mae gweithredoedd abswrd, afresymol neu chwareus yn gallu torri ar draws realaeth ac am ennyd, ddisodli tybiaethau cyffredin.

Mae’r strategaethau ddefnyddir gan yr artistiaid yn Ha Ha Road yn arddangos y rhyddid meddwl rhyddhaol sydd ar waith mewn hiwmor. Cawn ein gwahodd i edrych ar y byd o’r tu draw i’r ffens.

Curadwyd Ha Ha Road gan Dave Ball a Sophie Stringer.

Cynhyrchwyd yr arddangosfa fel arddangosfa grŵp deithiol gan QUAD, Derby mewn cydweithrediad â Mostyn, Llandudno.