Iwan Lewis
Peintio a mewnosodiadau yw prif gyfryngau Iwan Lewis a aned yn 1980 ac sy'n byw yng Nghymru.
Gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddylanwadau diwylliannol mae tirwedd Lewis yn aml yn swreal ond yn gofnodol, ac yn frith o gamddealltwriaethau ac ieithoedd aflwyddiannus. Mae fel petai yna farddoniaeth weledol yn perthyn i'w waith. Dibynnir yn fawr ar y darniog yn y gwaith i roi awgrym yn hytrach na datgelu naratif. Gwelir hyn trwy osod teilsen yn ofalus neu trwy roi un darn i chwarae yn erbyn y llall. Trwy adael i bortread, ymysg mewnosodiad o beintiadau, weithredu fel storïwr a chynrychiolaeth ffurfiol, daw naratif ffuglen i'r golwg.
Cynhyrchwyd yr arddangosfa ar y cyd, gyda chefnogaeth hael CALL Gweithredu Diwylliannol Llandudno C.I.C., Helfa Gelf Art Trail a Sefydliad Esmee Fairbarn.