Jo Shapland

Exhibition

Jo Shapland

[in]scape
7 Awst - 25 Medi 2010

Ers 2004 bu’r dawnsiwr, coreograffydd a’r artist Jo Shapland yn ymweld â Mostyn fel rhan o’i phrosiect preswyliad (in)scape , ac mae hi wedi profi holl gyfnodau ehangiad yr Oriel i adeilad y Swyddfa Post, o ofodau gwag heb ddefnydd iddynt, trwy ddymchweliad ac ailadeiladu nes cwblhau y cyfan.

Wrth archwilio yn safle-benodol, ansawdd gofodau pensaerniol trwy y corf a symudiad, mae hi wedi datblygu ffilm a delweddaeth ffotograffig, ac wedi cerflunio a darganfod gwrthrychau, yn deillio o’i hagwedd at ddarlunio a choreograffi, ac wrth dynnu ar ei phrofiad o’r gofodau a’r newidiadau a ddigwyddodd iddynt. Bydd perfformiad gan yr artist ac eraill yn dynodi agoriad y Mostyn newydd, ac wedyn fe arddangosir y gwrthrychau a’r arteffactau a wnaethpwyd ac a gasglwyd ar hyd y ffordd fel rhan o’r broses pan ddaeth hi i ddeall ac ymateb i ansawdd pensaerniol yr adeilad.