Joanna Kirk

Exhibition

Joanna Kirk

Miles to Go Before I Sleep
18 Medi - 6 Tachwedd 2010

Gan ddefnyddio’i bysedd i ymdoddi lliwiau ac adeiladu wyneb, mae lluniadau pastel Joanna Kirk yn ymwneud â’i phrofiad hi o fod yn fam lle mae harddwch yn cael ei nodweddu yn erbyn realaeth bob dydd i ddarparu perspectif newydd ar ei bywyd a’i gwaith. Mae nifer o’r tirluniau wedi eu llunio o leoliadau yng Ngogledd Cymru, gan hynnwys Nant-y-Coed, Llanberis a Llanfairfechan.

Mae llawer o ysbrydoliaeth Kirk yn dod oddi wrth y peintwyr argraffiadol Berthe Morisot a Mary Cassatt, lle roedd cartrefgarwch yn faes cyfarwydd, yn ogystal ag artistiaid diweddarach fel Louise Bourgeois am ei hadolygu cyson o brofaidau plentyndod. Yn sawl un o’r gweithiau mae Kirk yn ynysu ei phlant mewn tirluniau naturiol, gan ddangos eu bregusrwydd a rhywbeth o’r dychryn â’r hud o storïau tylwyth teg lle mae plant yn dwyn pwysau pryder yn ogystal a rhai eu rhieni.

 

Mae Milltiroedd i Fynd Cyn i Mi Gysgu yn Arddangosfa Mostyn.