John Henry Newton

Exhibition

John Henry Newton

Oriel 6: Esgyn
26 Hydref - 12 Ionawr 2014

Yn ei weithiau celf, sy’n amrwyio o baentio a darlunio i gerflunwaith a gwneud deunyddiau, mae agwedd John Henry Newton at gyfryngau a’i ddefnydd ohonynt yr un mor eangfrydig â‘i agwedd at ei gyfeirbwyntiau.

---

Yn ei weithiau celf, sy’n amrwyio o baentio a darlunio i gerflunwaith a gwneud deunyddiau, mae agwedd John Henry Newton at gyfryngau a’i ddefnydd ohonynt yr un mor eangfrydig â‘i agwedd at ei gyfeirbwyntiau. Fodd bynnag, mae ei holl weithiau wedi eu cysylltu gan broses ymchwil sy’n cyfeirio at iaith a hanes celf ag iaith bob dydd, gan ymateb yn aml i’r cyd-destun ble bydd y gwaith yn cael ei arddangos. Bydd yr arddangosfa hon ym MOSTYN yn ymdrin â‘r dulliau cyffredin o edrych ar gelf, yn ogystal â‘r syniad o gydweithio.
Ganed John Henry Newton yn Swindon ym 1988.

Wedi ei osod ar y llawr uchaf ym MOSTYN, mae Oriel 6 wedi ei neilltuo i gyflwyno gwaith artistiaid ifanc ac egin artistiaid sydd heb eto gael arddangosfa unigol mewn gofod sefydliadol, naill ai’n genedlaethol neu’n rhyngwladol.