Keith Arnatt a 'CHI'

Exhibition

Keith Arnatt a 'CHI'

27 Ebrill - 7 Gorffennaf 2013

Mae’r arddangosfa hon yn nodi dychweliad iMOSTYN i waith Keith Arnatt, ddangoswyd o’r blaen yn yr oriel ym 1989. Gan ganolbwyntio’n llwyr ar ei ymarfer diweddar, mae’r detholiad o weithiau yma yn amlygu gallu Arnatt i ddatgelu harddwch, barddoniaeth a hiwmor mewn agweddau ymddangosol gyffredin bywyd bob dydd, yn ogystal â dadlennu haenau dwys perthynas yn y cyfathrebu rhwng pobl.

Roedd Keith Arnatt yn un o artistiaid enwocaf ei genhedlaeth.

Yn ystod y 1960au a’r 1970au mynodd Arnatt ei safle fel un o brif artistiaid cysyniadol y DU. Roedd ei weithiau o’r cyfnod hwn yn cwestiynu amcan celf yn drwyadl, gan gynnwys ei gynhyrchiad a’i ganfyddiad, safle’r artist, yn ogystal â‘r artist fel pwnc ar gyfer gwaith. Daeth defnydd eang Arnatt o ffotograffiaeth yn ystod y cyfnod hwn yn fwy amlwg yn ei waith diweddarach. 
Roedd y newid hwn mewn dull yn adlewyrchu tŵf diddordeb Arnatt yn y camera fel arf ar gyfer gwneud gwaith celf a’i allu nid yn unig i ddogfennu, ond hefyd i effeithio ar ganfyddiad ac ymddygiad pwnc.

Gweithreda’r arddangosfa o waith Keith Arnatt fel gwrthbwynt grymus ac amserol i’r cyfraniadau gan yr artistiaid eraill yn yr arddangosfa grŵp ‘TI’, sydd ymlaen ym MOSTYN yr un pryd, ac sy’n rhannu pryder Arnatt ar sut i fynd i’r afael a myfyrio ar safbwynt y gwyliwr. Mae’n arddangos fod gwaith Arnatt dal yn berthnasol ac yn bwysig ac fe gaiff ei osod yng nghyd-destun heddiw, gan wahodd dehongliadau a dealltwriaethau newydd o’i waith.