Kiki Kogelnik

Exhibition

Kiki Kogelnik

Riot of Objects - yn dod i ben 23 October 2020
14 Mawrth - 23 Hydref 2020

Yma mae Stephen Hepworth, Cyfarwyddwr y Kiki Kogelnik Foundation, yn siarad am fywyd a gwaith Kiki Kogelnik, a'i harddangosfa 'Riot of Objects' ym MOSTYN.
(
gydag isdeitlau Cymreig)

Trawsgrifiad Fideo Kiki Kogelnik (Cymraeg)

Yr arddangosfa hon yw’r cyflwyniad sefydliadol cyntaf i ganolbwyntio ar waith serameg Kiki Kogelnik.

Yn cael ei hystyried yn un o ffigurau allweddol yr avant-garde ar ôl y rhyfel, mae gwaith amlddisgyblaethol Kiki Kogelnik yn ymestyn dros pump degawd. Mae’n cynnwys paentiadau, printiau, cerfluniau, gosodiadau a chasgliadau. Datblygodd ei harddull artistig amlochrog o waith paentio abstract i Gelf Pop a chynrychiolaeth o'r corff (benywaidd).

Roedd diwylliant defnyddwyr, technoleg a ffeministiaeth yn themâu a oedd yn ymddangos yn aml yn ei gwaith. Mae ei hestheteg unigryw yn cynnwys chwareusrwydd a hiwmor, ond eto mae yma ymdeimlad beirniadol iawn iddo. Wrth wrthsefyll a herio atyniad diwylliant cyfalafol ar ôl y rhyfel yn ei gwaith, gosododd ffiniau rhyngddi hi ei hun a’i chyfoedion cyfoes.

Dechreuodd wneud gwaith serameg yn 1974, a chyn bo hir daeth yn weithgaredd allweddol yn ei harfer artistig. Roedd ei gwaith serameg yn cael ei wneud â llaw, ac yn cael eu torri o slabiau gan ddefnyddio stensiliau. Mae’n debyg i’w phaentiadau cynnar o ran mentrusrwydd, bywiogrwydd a’r lliwiau llachar. Defnyddir dull o gyflwyno y gwnaeth hi ei ddefnyddio mewn arddangosfa yn Henri Gallery yn Washington, DC yn 1990. Mae nifer o ynysoedd wedi'u gwneud o glystyrau o blinthau o wahanol uchder a lled yn britho’r gwagle, sy’n arddangos amrywiaeth o’i gwaith annibynnol sy'n dyddio o’r 1970au hyd at y 1990au. Mae’r arddangosfa hon wedi’i threfnu yn gronolegol, ac mae’n dangos gallu diderfyn Kiki Kogelnik i ddyfeisio pethau newydd a’i hymrwymiad aflonydd i greu pethau.

Pecyn Adnoddau Artist
Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Kiki Kogelnik ar gyfer ysgolion a theuluoedd (oedran 7+)

Amdan yr artist
Cafodd Kiki Kogelnik ei geni yn Bleigburg, Awstria yn 1935. Treuliodd gyfnodau yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd ac yn Fienna. Bu farw yn 1997 yn Fienna, Awstria. Dechreuodd astudio ym Mhrifysgol y Celfyddydau Cymhwysol yn Fienna yn 1954, ond ymunodd ag Academi Celfyddydau Cain, Fienna flwyddyn yn ddiweddarach. Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Kiki Kogelnik. Les cyborgs ne sont pas respectueuses, Musée des Beaux-Arts de La Chaux-de-Fonds, Y Swistir (2020); Kiki Kogelnik, Mitchell-Innes & Nash, Efrog Newydd (2019); Kiki Kogelnik: Inner Life, Kunsthall Stavanger (NO 2018); Kiki Kogelnik: Fly Me to the Moon, Modern Art Oxford, Lloegr (2015); a Kiki Kogelnik. Retrospective, Kunsthalle Krems, Awstria (2013). Cafodd ei chynnwys yn The Assembled Human, Museum Folkwang, Essen, Yr Almaen (2019); Fly Me to the Moon. The Moon Landing: 50 Years On, Kunsthaus Zürich, Y Swistir (2018) a Museum der Moderne Salzburg, Awstria (2019); A Woman Looking at Men Looking at Women, Muzeum Susch, Y Swistir (2018); The World Goes Pop, Tate Modern, Llundain, Lloegr (2015) a POWER UP – Female Pop Art, Kunsthalle Wien, Fienna, Awstria (2010).

Supported by: 

Cefnogwyd gan Austrian Federal Chancellery.

Roedd y fideo Kiki Kogelnik yn bosibl gydag arian y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Downloads: