Kris Martin

Exhibition

Kris Martin

T.Y.F.F.S.H.
24 Medi - 16 Hydref 2016

Mae’r arddangosfa gan Kris Martin o Wlad Belg yn cynnwys balŵn aer poeth o faint llawn yn oriel MOSTYN. Teitl y gwaith yw T.Y.F.F.S.H., (2011).

Er mor fawr yw T.Y.F.F.S.H , mae gallu Martin i gyfleu ystyr mor benodol drwy ei waith yr un mor effeithiol â phe byddai ar raddfa fach, ac ar adegau mae’r byrhoedledd yn ymylu ar ddiflannu. Fel balŵn aer poeth, mae T.Y.F.F.S.H yn arbennig, eto i gyd nid yw’n drawiadol.

Mae’r hyn a gyflëir yn gymedrol a didwyll, a’r mae’r ffaith ei bod wedi’i ddadleoli’n perthyn yn nes at hanes ‘ready-made’, nag yw â hanes Gosodiadau. Mae ei ffraethineb a’i gynildeb, a’i ymdeimlad o ramantiaeth yn wahanol i’r duedd bresennol a chynyddol o ddefnyddio graddfa fawr i ddenu apêl dorfol, a chreu adloniant. Fel haen arall o’i ddehongliad, mae T.Y.F.F.S.H yn ystyried paramedrau presennol y gofod yn yr oriel, a gall y cyhoedd fynd i mewn iddi, a chael golwg arall ar ei hansawdd pensaernïol, yn ogystal â’i statws a’r defnydd fel lle i gyflwyno a mwynhau. Mae hefyd yn waith bywgraffyddol prin gan yr artist.

Mae cefn gwlad Fflandrys yn rhanbarth lle gwelir balwnau aer poeth ac mae’n rhywbeth yr arferai’r artist ei weld rheolaidd yn y gorffennol, gan roi cyd-destun pellach ar gyfer y cyflwyniad ym MOSTYN | Cymru a’i le yn LLAWN.