Laurence Kavanagh

Exhibition

Laurence Kavanagh

Dilyniant
22 Hydref - 5 Chwefror 2017

Arddangosfa unigol o waith gan Laurence Kavanagh ydyw, sydd, fel rhan o'n 'Cyfres Sgwrs', yn datblygu prosiect parhaus ac ehangol Kavanagh ymhellach i greu deuddeg set o waith rhyngberthynol a elwir, ar y cyd, Cyfres Calendr.

Trwy gyfuniad o gyfryngau megis cerflunio a chyfosodiad ffotograffig, mae gwaith Kavanagh yn ymgymryd â'r syniad o gynrychiolaeth weledol. Yn fwy penodol, mae gwaith ffotograffig a sinematig yn ffurfio maes ymchwil ar gyfer yr hyn y mae gweld a chael eich gweld, cynrychioli a chael eich cynrychioli, yn ei olygu. Yn y bôn, mae'r gwaith yn archwilio sut i lywio trwy'r gofod perthynol rhwng 'bywyd delweddol', y modd yr ydym yn amgyffred y byd yn weledol, a'r byd fel y mae mewn gwirionedd. Mae Kavanagh yn cyfeirio at y sinema fel “adeilad a grëwyd er mwyn cadw tafluniadau ein hysbryd mewnol ar sgrin”.

Alfredo Cramerotti - Cyfarwyddwr, MOSTYN ac Adam Carr- Curadur Rhaglen Celf Weledol , MOSTYN yn sgwrsio am y diweddaraf yn y 'Gyfres Ymgom' o arddangosfeydd, ymlaen o 22 Hydref 2016 hyd 5 Chwefror 2017.
(Yn Saesneg, gyda cyfieithiad Cymraeg yma)

Supported by: 

Trwy gefnogaeth Marlborough Contemporary ac APT.