Loches

Exhibition

Loches

3 Rhagfyr - 15 Ionawr 2012

Mae’r arddangosfa unigryw ac aml-ddimensiwn hon wedi datblygu o gorff o baentiadau gan Gareth Griffith, oedd a’u tarddiad yn babell las benodol ddefnyddiwyd gan y teulu i wersylla pan yn Jamaica yn nechrau’r 70au. Mae wedi bod, yn ei eiriau ei hun ‘yn ail-ymweld yn ddiweddar â’r amser yna yn fy ngwaith, gan wynebu ysbrydion y gorffennol. I mi, reodd presenoldeb tywyll yn y ddelwedd gyntaf i mi eu chreu, a ddaeth yn ragarweiniad i weddill y gwaith yn yr arddangosfa.’

Dechreuodd adeiladu pabelli/cysgodfeydd bychan fel maquettes ar gyfer ei baentiadau. Daeth y rhain yn weithiau ynddynt eu hunain, ac wedi iddo lunio tua ugain gofynodd i’w feibion (ill tri yn artistiaid) i wneud eu llochesi eu hunain. O hyn daeth y syniad am gae o babelli/gysgodfeydd, ddatblygodd yn broses gydweithredol gydag artistiaid eraill. Mae’r arddangosfa hon yn ehangu ar y gosodwaith ganddo yn gynharach eleni yn Galeri, Caernarfon lle dangoswyd nifer o’r rhain fel atodiad i’w baentiadau.

Wedi’i hadeiladu o ddeunyddiau wrth law yn unig mae chwe deg o artistiaid megis Peter Finnemore, Heather ac Ivan Morison, Ivor Ricahrds a Paul Grnajon wedi cyfrannu eu ‘llochesi’ eu hunian i’r cyflwyniad yn Mosytn sy’n rhoi ystod hynod ddifyr o syniadau, deunyddiau siapiau a dylanwadau.