Mae’r Drychau Gennym ni, Mae’r Cynlluniau Gennym ni’

Exhibition

Mae’r Drychau Gennym ni, Mae’r Cynlluniau Gennym ni’

22 Mai - 4 Medi 2010

‘Gochelwch…. Ni ydi’r artistiaid, mae’r drychau gennym ni, mae’r cynlluniau gennym ni’. Dyma beth ddywed yr artist Craig Wood â’i dafod yn ei foch, am y syniad fod beth y mae artistiaid yn ei wneud yn adlewyrchu cymdeithas, ac efallai yn proffwydo ei dyfodol. Mae hyn yn hunan-watwarus, ac yn cydnabod yr holl faniffestos, datganiadau, iwtopias a dystopias sy’n frith yn hanes celfyddyd fodern.

Felly mae ei eironi drygionus a’i amwysder yn addas iawn ar gyfer teitl i arddangosfa sy’n cynnwys pump ar hugain o artistiaid ac phartneriaeth-artistiaid, pob un â’i feddwl ar bethau gwahanol a phob un yn gweithio mewn dull gwahanol i geisio gwneud synnwyr o beth mae’n ei olygu i fod yn fyw heddiw a chadw (o leiaf un) llygad ar y dyfodol.


Gofynnwyd i guraduron amlwg o chwe rhan o’r wlad i enwebu artistiaid o’u hardaloedd hwy ei hunain ac o lefydd eraill, gan bwysleisio’n unig ar eu barn ar ansawdd a diddordeb gwaith yr artistiaid, heb gyfeirio at eu hoed na’u hanes. Allan o’r ugeiniau o artistiaid a enwebwyd dewisiwyd pump ar hugain, ond nid yw Gennym Ni Mae’r Drychau, Gennym Ni Mae’r Cynlluniau yn honni i fedru cyflwyno darlun diffiniol o gelfyddyd fodern yng Nghymru. Foddbynnag, fel prosiect mae yn cyflwyno amrywiaeth, grym a chyffro’r gwaith a gynhyrchir, gyda phaentio, darlunio, cerflunio, gosodiad, testun, fideo a darnau sain. Os bydd hyn yn cael ei ailadrodd bob pedair blynedd, fel y bwriedir, bydd yn darparu darlun unigryw o ymarfer gelfyddydol mewn man arbennig a’i ddatblygiad dros gyfnod. 
Derbyniodd Gennym Ni Mae’r Drychau, Gennym Ni Mae’r Cynlluniau gefnogaeth hael gan Sefydliad Peter Moores, ac mae’r cyhoeddiad sy’n dod gyda’r arddangosfa wedi derbyn cefnogaeth ychwanegol gan Sefydliad Elusennol Colwinston.

Sponsored by: