Marged Pendrell
Mae’r gosodwaith Gofalwr yn rhoi cyfle unigryw i ni weld corff newydd o waith gan Marged Pendrell. Mae llawer o’r gwaith yn deillio o deithiau cerdded allan yn y wlad lle bu’r artist, a rhai eraill a wahoddwyd ganddi, yn casglu deunyddiau naturiol. Mae nifer o bynciau yn y gwaith yn cynnwys y cysylltiad/datgysylltiad gyda’r tir, pryderon amgylcheddol, naratif bersonol gyda’r tir a phresenoldeb corfforol y tir ei hun drwy bridd, tywod a cherrig a gasglwyd.
Yn cynnwys gwaith cerfluniol a lluniadau yn ogystal â chymysgedd o ddeunyddiau a ganfyddwyd, ffurfiau papur, efydd, plwm a chopor, mae’r gosodwaith yn uno’r cyfan fel un tirlun.
Supported by:
Mae’r Gofalwr yn Arddangosfa Mostyn, gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.