Marinella Senatore

Exhibition

Marinella Senatore

'The School of Narrative Dance' a Phethau Rhyfeddol Eraill
21 Mai - 17 Medi 2016

Rydym yn falch o gyflwyno arddangosfa unigol gyntaf Marinella Senatore mewn sefydliad ym Mhrydain.

Mae'r arddangosfa yn cyflwyno detholiad o waith yr artist o 2006 hyd heddiw, mewn arddangosfa a fydd yn galluogi ymwelwyr i gyfrannu a chymryd rhan.

Rhoddir pwyslais arbennig ar The School of Narrative Dance, prosiect teithiol parhaus a sylfaenwyd gan yr artist yn 2013 ac sydd wedi cael clod gan y cyhoedd mewn mwy na deg o wledydd ar draws y byd.

Am y tro cyntaf, bydd hefyd yn cyflwyno, yn ei syniad gwreiddiol, RE:VERB – gwaith aml-haen sy’n cynnwys saith fideo a fwriadwyd ar gyfer y teledu, wedi'i wneud gyda phobl Llandudno pan oedd yr artist ar gyfnod preswyl yng Ngogledd Cymru yn 2015. Comisiynwyd y gwaith hwn gan CALL, ac fe’i gwnaed yn bosib drwy fenter gydweithredol a chymorth ariannol grant Creu Cymunedau Cyfoes Cyngor Celfyddydau Cymru a Mostyn Estates Ltd.

Hon yw arddangosfa unigol gyntaf yr artist mewn sefydliad ym Mhrydain. Mae hi wedi'i llunio a’i datblygu fel ffordd o edrych yn banoramig ar ei chynhyrchiad diweddaraf, ac yn benodol ar y sylw cynyddol a roddir gan Senatore i gynnwys cymunedau. Mae'n dangos y syniad pwerus o ailystyried llefydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant mewn ffordd fwy deinamig. Ar yr un pryd, mae’n hyrwyddo cynnwys y cyhoedd yn y broses o greu ac yn y modd y defnyddir y gwaith celf. Mae’n grymuso’r unigolyn yng nghyswllt strwythurau cymdeithasol a systemau sy'n dod â chymunedau at ei gilydd.

Yn cyd-fynd â’r arddangosfa mae Cais Agored am gyfraniadau i ESTMAN RADIO, gorsaf radio “hunanwasanaeth” barhaol ar-lein sy’n ymddangos yn Oriel 2 MOSTYN.

Yn ogystal, ar yr un pryd, bydd darn fideo Marinella Senatore, The School of Narrative Dance, yn ymddangos ar wal gyfryngau yn Corso Como Milan rhwng 20 Mai a 31 Mai, fel rhan o bartneriaeth rhwng MOSTYN a Poincaré Investment Ltd.

Supported by: