Meriç Algün Ringborg

Exhibition

Meriç Algün Ringborg

Oriel 6: Esgyn
18 Ionawr - 13 Ebrill 2014

Mae gwaith Meriç Algün Ringborg, a anwyd yn Istanbul ym 1983, yn aml yn canolbwyntio ar ei hunaniaeth genedlaethol fel dinesydd o Dwrci sydd erbyn hyn yn byw a gweithio yn Sweden.

Gan archwilio i fiwrocratiaeth croesi ffiniau, mae hi hefyd yn archwilio sut mae rheolau a rheoliadau yn medru awdurdodi a llethu ein gweithgareddau a'n hunaniaethau. Yn ei harddangosfa ym MOSTYN cyflwynir dau ddarn: Tragwyddoldeb ac Anfeidroldeb a Metatext – y ddau wedi eu creu yn 2013. Mae'r ail yn naratif clywedol 13 munud o hyd sy'n gasgliad o frawddegau o Eiriadur Saesneg Rhydychen sy'n ymwneud â'r ddefod o ysgrifennu a chreu artistig, ac mae'n gweithredu fel myfyrdod ar y gweithgareddau hynny. Mae'r gwaith cyntaf, Tragwyddoldeb ac Anfeidroldeb, yn ddarn atodol: ddau fideo mud sy'n canolbwyntio ar ddwylo'n cyflawni tasgau diystyr, gan gynnwys clymu cwlwm addurniadol a gwneud tric gyda phin ysgrifennu. Mae'n debyg i'r darn sain yn y modd fod y ddau yn cwestiynnu cyflawni gweithred heb amcan eglur nac amlwg iddi – y ddau yn awgrymu syniad o oferedd a'r broses greadigol.

Cynhyrchwyd llyfryn lliw i gyd fynd â'r arddangosfa sy'n cynnwys delweddau a chyfweliad gyda'r artist ac Adam Carr (Curadur Rhaglen Celf Weledol, MOSTYN).

ORIEL 6

Wedi ei osod ar y llawr uchaf ym MOSTYN, mae Oriel 6 wedi ei neilltuo i gyflwyno gwaith artistiaid ifanc ac egin artistiaid sydd heb eto gael arddangosfa unigol mewn gofod sefydliadol, naill ai'n genedlaethol neu'n rhyngwladol. Mae gofod Oriel 6 a'i raglen atodol a elwir 'Esgyn' yn rhoi cyfle i artistiaid weithio dan amodau proffesiynol a chyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ehangach. I'r gynulleidfa hefyd, bydd Oriel 6 yn llwyfan i ganfod pethau newydd. Bydd yn dod ag amrywiaeth eang o artistiaid sydd ar flaen y gad o ran practis celf gyfoes, o bell ac agos, i MOSTYN.

Supported by: