Milltiroedd o Greadigrwydd

Exhibition

Milltiroedd o Greadigrwydd

18 Tachwedd 2017 - 18 Chwefror 2018
18 Tachwedd - 18 Chwefror 2018

Beacon Garage, Trish Bermingham, Lin Cummins, Wendy Dawson, Tim Dickinson, Glyn Ellis, Nick Elphick, Julia S. Greaves, Lizzie Hughes, Mark Hughes, Anna Jones, Richard Cynan Jones, Patrick Joseph, Judith Bond Cakes, Barry Morris, North Wales Vapour, Pea J. Restall, Miguel Roque, Mike Ryder, Alana Tyson, Alan Whitfield, Wild Horse Brewery, Emrys Williams, Gwyn Williams, Susan Williams, Sandra Wynne

Mae Milltiroedd o Greadigrwydd yn arddangosfa gan grŵp sy’n archwilio’r weithred greadigol a’i berthynas â thref Llandudno, ac mae’n dod â gwaith ynghyd gan arlunwyr a chan bobl greadigol sy’n gweithio mewn crefftau nad ydyn nhw’n cael eu dangos yn draddodiadol mewn oriel gelf. Yn ganlyniad arolwg curadurol o’r ardal sy’n union gyfagos i’r oriel, mae’r arddangosfa yn cynnwys golwg ehangach o greadigrwydd a meddwl rhyngddisgyblaethol, sy’n canolbwyntio llai ar gwestiynu beth sy’n ‘gelf’ a beth sydd ddim yn ‘gelf’ yn hytrach na dathlu creadigrwydd, syniadau gwahanol o beth all gydfodoli ochr yn ochr yn y lleoedd mwyaf annisgwyl ac anfwriadol.

Bydd prosiect ymgysylltu cymunedol cysylltiedig yn cael ei arddangos yn ein stiwdio, yn gwahodd cyfraniadau gan ymwelwyr o luniau ac atgofion am grefftau yn y dref dros y blynyddoedd.

Downloads: