Mladen Bizumic

Exhibition

Mladen Bizumic

Kodak Employed 140,000 People. Instagram 13.
22 Hydref - 5 Chwefror 2017

Yn rhan o 'Gyfres Sgwrs' parhaus MOSTYN, mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar gwmni Kodak, un o'r meysydd sy'n derbyn y mwyaf o sylw yng ngwaith Bizumic, ac mae'n darlunio'r newid rhwng ffotograffiaeth ffilm i ddelweddu digidol.

Trwy ffotograffiaeth a cherflunio mae'r gwaith yn ffurfio llinell amser o ddatblygiad Kodak, o'i sefydlu ym 1880 hyd ei ddarfodiad yn 2012 pan aeth y cwmni'n fethdalwr. Mae hanes ffotograffiaeth, a chynnydd a darfodedigrwydd technoleg, ochr yn ochr â rhyfyg corfforaethol cronolegol, yn cael ei hymgorffori yng ngwaith Bizumic. Mae'r materion hyn yn gweithredu fel lens y gellir ystyried cysyniadau dwysach trwyddi – sut mae'r weithred o greu delweddau, a'r dechnoleg sy'n galluogi hyn, yn dylanwadu nid yn unig ar gyswllt estheteg, cymdeithasol ac economaidd, ond hefyd y sgil effeithiau pan gant eu neilltuo o'r darlun a rhywbeth arall yn cael ei roi yn eu lle.

Alfredo Cramerotti - Cyfarwyddwr, MOSTYN ac Adam Carr- Curadur Rhaglen Celf Weledol , MOSTYN yn sgwrsio am y diweddaraf yn y 'Gyfres Ymgom' o arddangosfeydd, ymlaen o 22 Hydref 2016 hyd 5 Chwefror 2017.
(Yn Saesneg, gyda cyfieithiad Cymraeg yma)

Supported by: 

Trwy gefnogaeth hael Creative New Zealand

Downloads: