MOSTYN Agored 18

Exhibition

MOSTYN Agored 18

18 Ionawr - 14 Ebrill 2013

Ers ei sefydlu ym 1989, mae’r Agored wedi gweithredu fel galwad i artistiaid o unrhyw oedran a lleoliad, i ymgeisio, gyda arddangosfa o’r gweithiau celf dethol yn digwydd ynMOSTYN, a gwobr o £10,000 yn cael ei dyfarnu i artist unigol neu gyfunol.

Mae MOSTYN | Cymru yn falch o gyhoeddi’r artistiaid fydd yn cymryd rhan yn MOSTYN Agored 18 sef: Jacqueline Bebb, Jane Bustin, Cath Campbell, Tomas Chaffe, Danilo Correale, Sean Edwards, Alex Farrar, Claudio Gobbi, Gareth Griffith, The Hut Project, Yuki Kishino, Lawrence Leaman, James Lewis, Stuart Middleton, Edward Morgan, Philip Newcombe, John Henry Newton, Laura Reeves, Zhao Renhui, Hua Kuan Chen Sai, Chris Shaw-Hughes, Nikolaus Schletterer, Mathew Tom, Alaena Turner, Gwyn Williams, a Jesse Wine.

Ers ei sefydlu ym 1989, mae’r Agored wedi gweithredu fel galwad i artistiaid o unrhyw oedran a lleoliad, i ymgeisio, gyda arddangosfa o’r gweithiau celf dethol yn digwydd yn MOSTYN, a gwobr o £10,000 yn cael ei dyfarnu i artist unigol neu gyfunol.

Tra’n parhau yn y traddodiad hwn, bydd ychwanegiad sylfaenol i’r 18fed rhifyn. Bydd gwobr o £1,000 yn cael ei gyflwyno i Ddewis y Bobl, sef yr artist sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau gan y cyhoedd sy’n ymweld yn ystod cyfnod yr arddangosfa. Wrth wneud hynny, y cwestiynau fydd yn codi, ac sy’n ganolog i’r rhifyn newydd hon o’r Agored yw: Sut ydym yn archwilio ac yn barnu gwaith celf? Pa feini prawf fyddwn yn eu hystyried wrth ganfod, dehongli a deall gwaith celf? Beth sy’n wir wneud rhywbeth yn ffefryn gennym?

Mae’r dewis o artistiaid ar gyfer MOSTYN Agored 18 yn cynrychioli cynnydd proffil rhyngwladolMOSTYN ac arwyddocâd yr Agored ei hun, gyda cyfranogwyr o Awstria, yr Almaen, yr Eidal, Japan, yr Iseldiroedd, Sweden, Singapore, yn ogystal â‘r DU.

Cafodd MOSTYN Agored 18 ei dethol gan Adam Carr, Curadur MOSTYN, Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN a Ryan Gander, Artist; a chi, y gynulleidfa sy’n ymweld, ar gyfer Dewis y Bobl.