MOSTYN AGORED 19
Orielau 2, 3, 4, 5 + 6
Caroline Allen | Mark Beldan | Hannah Birkett | Jorge Lizalde Cano | Ciriaca + Erre | Briony Clarke | Teresa Cos | Maria Ana Vasco Costa | Fiona Curran | Peter Doubleday | Mark Doyle | Alex Duncan | Catrin Llwyd | Rosie Farey | Carlos Noronha Feio | Rebecca Gould | Shreepad Joglekar | Gethin Wyn Jones | Justyna Kabala | Debbie Locke & Sara Dudman | Robert Lye | McGilvary/White | Lindsey Mendick | Fay Nicolson | Timea Anita Oravecz | David Paddy | Simon Parish | Alice Pedroletti | Jonathan Phillips | Susan Phillips | Serena Porrati | Steph Shipley | Tim Simmons | Kristian Smith | Matthew Smith | Catrine Val | Dominic Watson | Ben Woodeson
Ers yr arddangosfa gyntaf yn 1989 mae’r Agored wedi bod yn alwad i artistiaid o unrhyw oed, cefndir daearyddol neu leoliad preswyl i ymgeisio, gyda arddangosfa o’r gwaith celf dethol yn digwydd yn MOSTYN, a gwobr o £10,000 yn cael ei dyfarnu i artist unigol neu gywaith. Yn ogystal a hyn, caiff wobr o £1,000 i’w gyflwyno i ‘Ddewis y Bobl’, sef y rhai a dderbynir y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr yn ystod yr arddangosfa.
Am y tro cyntaf yn hanes MOSTYN Agored, bydd y gwahoddiad ar gyfer gweithau i’w hystyried yn cael ei ymestyn i gynnwys ystod fwy eang o ddisgyblaethau; o gelfyddydau cymhwysol hyd at ddylunio a chyfathrebu graffig.
Y detholwyr ar gyfer MOSTYN Agored 19 yw: Marinella Senatore, Artist; Claire Norcross, Dylunwraig; Philip Hughes, Cyfarwyddwr Canolfan Grefft Rhuthun; Adam Carr, Curadur Rhaglen Gelf Weledol MOSTYN; Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN. A chi, y gynulleidfa fydd yn ymweld â’r arddangosfa, ar gyfer ‘Dewis y Bobl’.