Nina Beier

Exhibition

Nina Beier

26 Hydref - 5 Ionawr 2014

Mae MOSTYN | Cymru yn falch iawn o gyflwyno arddangosfa unigol gan yr artist o Ddenmarc, Nina Beier, y gyntaf mewn sefydliad cyhoeddus yn y DU. Mae’n un o’r arddangosfeydd mwyaf cynhwysfawr o’i gwaith hyd yn hyn, ac mae’n dod â gwaith sydd eisoes yn bodoli a chomisiynau newydd at ei gilydd.

--

Gogwydd cysyniadol ac archwiliad manwl o wrthrych a’r weithred o arddangos celf ynddo’i hun, yn ogystal â‘r sylw a roddir i ffurf a chyd-destun yw nodweddion amlycaf practis Beier, o bosib. Yn ei gweithiau celf amrywiol a niferus caiff agweddau o greu celf a syniadau sy’n ymwneud ag arddangos, gwerth a pherchnogaeth, a’r modd y caiff y pethau hyn eu canfod a’u derbyn eu chwyddo a’u gwyrdroi.
Mae perfformiad gwrthrychau a deunyddiau – y modd y maent yn newid dros amser neu’n altro’n unol â chyd-destun a chyflwyniad – a’r potensial sydd ganddynt i ymddangos yn wrthwynebol yn themâu hanfodol ac ailadroddol yng ngwaith Beier.

Supported by: 

Cefnogir yr arddangosfa gan Bwyllgor Cyngor Celfyddydau Denmarc ar gyfer y Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol.