Orbite Rosse

Exhibition

Orbite Rosse

Caru Fideo
18 Rhagfyr - 12 Chwefror 2012

Ein cyfres gyfredol sy’n rhoi cyfle i weld rhai o’r gweithiu fideo gorau o’r ddegawd ddiwethaf fwy neu lai – neu ddod i garu fideo am y tro cyntaf.

Yn Orbtie Rosse ( Rhod Goch) gan yr artist Eiadalaidd Grazia Toderi, mae delweddau nosol o ddinasoedd yn cael eu harosod a’u haenu, gan drawsnewid a diwygio’n gyson. Mae’r defnydd o’r ‘ddinas’ fel delwedd mytholegol a symbolaidd o harddwch ac arswyd eithafol yn ymdrin â’r cysyniadau sy’n ymwneud â’r athroniaethau dynol o ‘nefol ac uffern’.

Mae gwaith Toderi yn unigryw am y modd arloesol mae’n defnyddio fideo i dreiddio i feicrocsm digwyddiadau sy’n ymddangosol ddi-nod, ond sydd mewn gwirionedd yn llawn myfyrdodau dwys am y cyflwr dynol. Mae perthynas gyda llenyddiaeth, a phaentio yn arbennig, yn ganolog i estheteg Toderi, ac mae ei gweithiau fideo yn ymddangos fel pe baent yn ymwrthod y deinamig uniongyrchol sydd fel arfer yn gysylltiedig â’r cyfrwng.

Wrth ddisgrifio’r gwaith ar ei gwefan mae’r artist yn datgan ei bod wedi ‘dewis gyfrwng taflunio fideo oherwydd mai ei deunydd yw goleuni sy’n teithio ac yn ymddangos pan ddaw i gyffyrddiad gyda arwyneb, ac hefyd oherwydd y gellir ei drosglwyddo ar draws y byd yr un pryd. Mae goleuni hefyd yn gwneud ein bodolaeth yn bosibl, yn cyraedd o’r sêr, egni dirgel y byddwn yn byw a chwarae ynddo. Ac wrth syllu ar y goleuni sy’n llunio geometregau llewyrchol yn yr awyr – y cytserau – mae dyn wedi adeiladu dinasoedd, yn chwilio am y berthynas barhaus rhwng yr awyr â’r ddaear.’

Ganwyd Grazia Toderi yn Padua, yr Eidal, yn 1963 a mynychodd Academi Gelf Gain Bologna. Symudodd i Milan ym 1992, a chafodd ei gwaith sylw beirniadol gyntaf pan welwyd ei fideos yn Aperto y 45fed Biennale Celf yn Fenis. Mae gwaith Toderi wedi ei arddangos yn helaeth dros y byd, yn fwy diweddar mewn arddangosfa unigol yn Amgueddfa a Gardd Gerfluniau Hirshhorn, Washington DC, yn gynharach eleni.

Gwnaed Orbite Rosse yn wreiddiol ar gyfer ei chynnwys yn yr arddanogosfa Making Worlds yn y 53fed Biennale Celf yn Fenis yn 2009.