Radovan Kraguly
Cyflwyna MOSTYN arddangosfa arolygol bwysig gan yr artist clodfawr Radovan Kraguly. Am ymron ddeugain mlynedd, yn cynnwys cyfnod hir yn byw ar fferm yng nghanolbarth Cymru, bu wrthi’n ddyfal yn archwilio a darlunio ymddieithriad dyn oddi wrth natur. Gan ddefnyddio gwartheg llaeth yn benodol mae’n amlygu colled hunaniaeth a chysylltiad hanfodol rhwng dyn a natur.
Wedi ei fagu ar fferm fechan ger Prijedor yn yr hen Iwgoslafia, nawr Bosnia-Herzegovina, mae Kraguly yn ymchwilio rheolaeth a dibyniaeth dyn ar yr amgylchedd. Yn gynyddol mae cysylltiadau corfforol yn lleihau a’r pherthynas â hanfod y byd natur yn mynd yn rhywbeth haniaethol. I lawer, dyw llaeth ddim yn dod o fuwch, mae’n dod o’r archfarchnad.
Wrth gyflwyno themâu drwy arddulliau haniaethol a chysyniadol nodweddir paentiadau, cerlfuniau a gosodweithiau aml-gyfryngol Kraguly gan elfennau trefn a geometreg sy’n ymdebygu i’r ffiniau amgaeëdig, darniog o’n cwmpas yn y byd ffisegol.
MAE FERNANDO GARCÍA-DORY YN CREUGWAITH SY’N ADLEWYRCHU AC YN ADWAITH IGELF RADOVAN KRAGULY YN EIARDDANGOSFA AMGUEDDFA LAETH