Exhibition
RHYFEL
19 Gorffennaf - 2 Tachwedd 2014
RHYFEL yw'r drydedd arddangosfa mewn cyfres ym MOSTYN sy'n edrych ar hanes yr adeilad, yn ogystal â thref Llandudno, yn ei gyd-destun ehangach. Y bwriad yw ennyn diddordeb y cyhoedd yng ngorffenol MOSTYN, ac i bobl leol allu archwilio ei hanes ei hunain. Mannau cychwyn y gyfres yw defnyddiau blaenorol yr adeilad o ble gellir arbrofi gyda dulliau newydd o greu a chyflwyno arddangosfeydd a chyd-drafod gyda'r gynulleidfa.