RHYFEL II

Exhibition

RHYFEL II

Cyfres Hanes
14 Tachwedd - 8 Mai 2016

RHYFEL II yw'r chweched yn ein Cyfres Hanes o arddangosfeydd, sy'n archwilio hanes adeilad MOSTYN, gan ei roi yng nghyd-destun tref Llandudno a thu hwnt.
Mae'r dreftadaeth gyfoethog hon yn gweithredu fel man cychwyn i ddod ag arteffactau a delweddau hanesyddol ochr yn ochr â gwaith gan artistiaid cyfoes.

Pierino Algieri | Vanessa Billy | Ulla von Brandenburg Peter Coffin | Thomas Demand | Claire Fontaine | Felix Gonzalez-Torres |  Mario Garcia Torres | Simon Dybbroe Møller | Diango Hernández | Jon Kessler | Catrin Menai | Lydia Ourahmane | Christodoulos Panayiotou | Wilfredo Prieto | Mandla Reuter | Ron Terada | Sung Tieu | Gwyn Williams & Josh Whitaker
ac
Arteffactau, delweddau a chof arwyddion sy'n adrodd hanes Llandudno a'r ardal gyfagos yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Fel olynydd i RHYFEL I (MOSTYN, 2014) oedd yn canolbwyntio ar swyddogaeth yr adeilad fel neuadd ymarfer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'r arddangosfa newydd hon yn rhoi sylw i'r Ail Ryfel Byd ac at ddefnydd yr adeilad fel 'Donut Dugout', ble darperid bwyd ac adloniant ar gyfer y milwyr Americanaidd oedd yn aros yn y dref. Caiff gweithiau celf cyfoes eu gosod fel petaent mewn ymgom agos gyda chanfyddiadau o ymchwil hanesyddol, gan ein galluogi i edrych ar y gorffennol trwy ddrych y presennol.

Mae Adam Carr (Curadur Rhaglen Gelf Weledol, MOSTYN) wedi curadu’r arddangosfa hon, â chymorth Jane Matthews (Rheolydd Ymgysylltu/Ymch- wil MOSTYN) a Richard Cynan Jones (Gweithrediadau a Chy eusterau/ Ymchwil, MOSTYN), a’i gynhyrchu gan MOSTYN. 

Ynglŷn â'r Gyfres Hanes

Trwy gyfuniad o destun hanesyddol, gwrthrychau a delweddau, a gwaith gan artistiaid cyfoes, mae pob arddangosfa yn y gyfres yn arsylwi cyfnod penodol yn hanes adeilad MOSTYN. Y bwriad yw cynnig cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â gorffennol MOSTYN, ac i'r gymuned leol archwilio'i hanes ei hun. Mae defnyddiau blaenorol yr adeilad yn cael eu defnyddio fel mannau cychwyn i ddarganfod llwybrau newydd i wneud a chyflwyno arddangosfeydd, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Mae'r Loteri Genedlaethol yn ariannu arddangosfeydd Cyfres Hanes trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri

Gyda diolch arbennig i Adrian Hughes o Amgueddfa'r Home Front Experience, Stryd Newydd, Llandudno. Diolch hefyd i David Atkinson. Roedd ei ysgrif Memories of wartime (1939-1945) Llandudno yn amhrisiadwy. 

 

Supported by: 

Mae'r Loteri Genedlaethol yn ariannu arddangosfeydd 'Cyfres Hanes' trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri

Downloads: