Sïan Rees Astley

Exhibition

Sïan Rees Astley

Oriel 6: Esgyn
21 Mai - 17 Medi 2016

Mae gwaith Sïan Rees Astley yn gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau bob dydd – deunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer mannau domestig yn aml iawn.

Wrth wraidd ei gwaith mae’r broses o’i greu, ac mae’n hybu’r ymdeimlad o amser a dreulir yn gweithio gyda’r deunyddiau. Un o brif elfennau ei gwaith yw ailadrodd, sy’n digwydd drwyddo draw, fel nad oes modd adnabod y deunyddiau weithiau, dim ond drwy’r capsiwn sy’n cyd-fynd â’r gwaith.

Mae’r wybodaeth ar y capsiwn yn egluro i'r sawl sy’n edrych ar y gwaith pa fathau o ddeunyddiau sydd ynddo, ond eto nid yw teitlau’r gwaith yn datgelu’r cyfan. Mae ei gweithiau'n cael eu cadw'n agored yn fwriadol. Mae iddynt elfen berfformiadol a byddant yn ymddangos yn gyson fel gwaddod rhywbeth arall, yn anorffenedig hyd yn oed ac yn barod i’w hail-weithio o'r newydd.

Holl bwrpas Oriel 6 yw cyflwyno gwaith artistiaid ifanc sy’n dod i’r amlwg ond sydd heb gael arddangosfa unigol mewn sefydliad eto – yn genedlaethol nac yn rhyngwladol. Daw’r arddangosfa olaf yn y rhaglen gan Sïan Rees Astley, a aned yn 1992 ac sy'n byw ar Ynys Môn. Mae hi wedi graddio’n ddiweddar o Goleg Menai, Bangor, Gogledd Cymru.

Supported by: