The Silent Village
Humphrey Jennings, Peter Finnemore, Rachel Trezise, Paolo Ventura
Ar y 10fed o Fehefin 1942 fe ddifodwyd pentref Lidice yn Tsiecoslofacia gan y Natsïaid. O fewn wythnosau i’r drasiedi roedd Uned Ffilmiau’r Goron yn Llundain wedi comisiynu ffilm yn seiliedig ar yr erchylltra a chafodd hon ei gwneud yn Ne Cymru. Mae’r ffilm o 1943, The Silent Village, gan Humphrey Jennings yn coffâu trasiedi diweddar ac yn awgrymu dyfodol lle mae perygl o golli rhyddid, a hyd yn oed marwolaeth, yn bosib.
Mae’r ffilm wedi rhoi cyfle i artistiaid ac awduron cyfoes fyfyrio ar y sefyllfa fu’n ysgogiad iddi yn ogystal â rhai o’r pynciau sy’n deillio ohoni. Mae’r artistiaid Paolo Ventura a Peter Finnemore, yr awdur Rachel Trezise a’r hanesydd ffilm Dave Berry yn cynnig ymateb i ffilm sy’n ail-greu’r erchylltra yn Lidice yn ogystal â bod yn ffilm am fywyd Cymreig yn y 1940au cynnar.
Arddangosfa deithiol Ffotogallery wedi ei churadu gan Russell Roberts, Darllenydd mewn Ffotograffiaeth yn y Ganolfan Ewropeaidd dros Ymchwil Ffotograffig, Prifysgol Cymru, Casnewydd.