Thomas Goddard

Exhibition

Thomas Goddard

Be More Brando
18 Gorffennaf - 8 Tachwedd 2015

Oriel 6 - Esgyn

Ac yntau’n adnabyddus am fod yn hynod idiosyncratig ac yn ddi-hid tuag at enwogrwydd, fe wnaeth Marlon Brando, yr actor o Unol Daleithiau America, bwynt o wrthod ei statws fel un o’r enwogion, ond fe fanteisiodd arno i gefnogi’r achosion a oedd yn annwyl ganddo. Gan dorri stereoteipiau ei gyfoedion, tyfodd chwilfrydedd Brando tuag at fywyd a’r byd o’i gwmpas hyd yn oed yn fwy na’i archwaeth chwedlonol am fenywod a bwyd. Yn Be More Brando, mae Goddard yn defnyddio ei archif o ddynwarediadau Brando i ddatgelu’r gwir am y ffenomen fyd-eang. Gan amlygu’r actor fel symbol o chwedloniaeth, mae Goddard yn archwilio statws presennol Brando fel duw agafodd ei gamddehongli a’i gamddeall. Mae Be More Brando yn cynnwys ffilm, darn wal, cerflunwaith a thestun, yn ogystal â phrint argraffiad cyfyngedig.

Mae’r gwaith newydd hwn yn rhan o waith ymchwil Goddard i natur gwirionedd. Drwy archwilio’r gwahaniaethau rhwng byw a bod, mae ei waith yn ceisio cwestiynu defnyddio grym wrth actio, pa un ai wrth ennill neu drethu. Yn achos Brando, a yw’r awydd i ddynwared yn ymwneud ag ymroi iddo’i hunan, ynteu ddatblygu’n fersiwn arall ohono’i hunan?

Wedi ei eni ym 1980, ac yn gweithio yn Abertawe, mae Thomas Goddard yn mynd ati drwy ei waith i archwilio’r berthynas rhwng lle, cymuned a diwylliant, gan edrych ar y cysylltiad rhwng yr unigolyn a’r gymdeithas, rôl gwybodaeth gamarweiniol drwy’r cyfryngau a’i heffeithiau ar ddiwylliant cyfoes. Cafodd Goddard Wobr Cymru Greadigol ar gyfer 2015/16 a chynrychiolodd Gymru
fel rhan o raglen breswyl Standpoint Futures yn Llundain.