Tim Davies
Mae’r artist blaenllaw Tim Davies yn parhau i archwilio themau mynych fel hunaniaeth, cyfundrefnau pŵer ac effeithiau pŵer trefedigaethol, ddaw i’r amlwg yn fwy penodol drwy ddiddordeb yr artist mewn adeiledd pensaernïol ac eraill wnaed gan ddyn.
Pa un a yw’r adeiladwaith yma yn gofgolofnau, pontydd, plasau neu eglwysi cadeiriol mae Davies yn archwilio’r ideolegau sy’n rhan ohonynt mewn ymgais i ddatgelu’r ystyron dilys a symbolaidd cymhleth meant yn dal i ni. Mae Between a Rock and a Hard Place hefyd yn cynnwys gwaith cynharach gan yr artist fel Figures in a Landscape (2004/08) a’r DVD, Distant Views (2008).
Bydd Tim Davies yn cynrhychioli Cymru yn Biennale Celf Fenis flwyddyn nesaf.
Mae Between a Rock and a Hard Place yn arddangosfa deithiol Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae catalog i gydfynd â’r arddangosfa gyda thraethawd gan Ann Jones, Curadur Prosiectau, Casgliad Cyngor y Celfyddydau. Cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.