Tom Wood

Exhibition

Tom Wood

Tirluniau
16 Ionawr - 6 Ebrill 2014

MOSTYN | Cymru’n falch o gyflwyno cymal cyntaf arddangosfa symudol bwysig: deugain mlynedd o waith ffotograffig y ffotograffydd adnabyddus, Tom Wood, sydd erioed wedi ei weld na’i gyhoeddi o’r blaen.

Wedi sefydlu enw da fel ffotograffydd pobl, mae gwaith Tom Wood wedi cael ei arddangos a’i gyhoeddi’n helaeth dros ledled y byd. Mae ei waith ffotograffiaeth o dirluniau, fodd bynnag, yn gymharol anhysbys. Gan ymdrin â genre tirlunio mewn modd agored ac eangfrydig, mae Tom Wood – Tirluniau, a guradwyd gan Mark Durden, yn ein cyflwyno am y tro cyntaf i ddetholiad o bron i 100 o luniau eang ac amrywiol Tom Wood sy’n ymateb i Orllewin Iwerddon, Glannau Mersi a Gogledd Cymru. Bydd y dull arddangos, yng ngofodau oriel gwreiddiol Oes Fictoria MOSTYN, yn efelychu steil y salon.

Supported by: 

Cefnogwyd gan Gronfa Teithio Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru.