Y.A.P (Young Artists Project)

Exhibition

Y.A.P (Young Artists Project)

23 Ebrill - 29 Mai 2022

Mae MOSTYN wedi bod yn gweithio gyda grŵp o Artistiaid Ifanc 14-18 oed ar PORTFFOLIO, rhaglen datblygu artistiaid wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru: Y Gronfa Loteri Genedlaethol.

Trwy gyfres o sgyrsiau artist, thrafodaethau grŵp, gweithdai a theithiau o gwmpas yr oriel gydag artistiaid a phobol broffesiynol greadigol, anelodd y rhaglen at ddatblygu dealltwriaeth o ymarfer proffesiynol o fewn y sector diwylliant ac ehangu’r dull gweithredu tuag at gynhyrchu’n greadigol.

Gwahoddwyd yr Artistiaid Ifanc i gynnig a chynhyrchu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa dros dro yn y Gofod Prosiect, i gymryd rhan weithredol yn y broses o weithio fel artist mewn lleoliad proffesiynol. Wedi’i gyflwyno ochr yn ochr â’r gweithiau newydd hyn, casgliad o ddarnau dethol a gynhyrchwyd yn ystod y gweithdai wedi’u hwyluso gan artistiaid proffesiynol.

Hoffai MOSTYN ddiolch i’r holl fentoriaid sydd wedi cefnogi’r rhaglen: Paul Kindersley, Sarah Ryder, Nick Davies, Phoebe Davies, Stuart Middleton, Manon Awst, Ben Burgis, Angharad Williams, Alice O’Rourke a Rob Battersby. Diolch arbennig i Lisa Hudson, Cydlynydd Rhaglen PORTFFOLIO sydd wedi cefnogi’r Artistiaid Ifanc a’r mentoriaid dros y flwyddyn ddiwethaf.

Sponsored by: 

Downloads: