
Mae mwy i MOSTYN!
Mae mwy i MOSTYN na'i enw da fel y brif oriel sy'n arddangos celfyddyd gyfoes yng Nghymru, y DU. MOSTYN yw'r lle mwyaf cyfeillgar ac ysbrydoledig i gael blas ar gelf a phensaernïaeth, i fwyta, i siopa, i gyfarfod ffrind, i wneud rhywbeth gwahanol neu i ddysgu am rywbeth newydd.
Gyda'i ffasâd teracota nodedig o 1901 a'i feindwr aur cyfarwydd yn nhref glan môr draddodiadol a deniadol Llandudno, mae orielau gwreiddiol MOSTYN o droad y ganrif yn ymddangos ochr yn ochr â'r rhannau newydd a ychwanegwyd yn ddiweddar, sy'n dilyn cynllun trawiadol y pensaer Dominic Williams.
Mae'r adeilad yn gwbl hwylus i bawb ac mae mynediad AM DDIM.Mae gan MOSTYN weledigaeth, gweledigaeth lle mae arddangosfeydd celfyddyd gyfoes a chyfleoedd i ddysgu a chymryd rhan yn cychwyn trafodaethau ar fywyd cyfoes, ar gyfer pobl o bob oed a chefndir.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy am Ein Cenhadaeth, ein Gweledigaeth ac ein Gwerthoedd
Yr Arddangosfeydd
Mae MOSTYN yn cyflwyno arddangosfeydd cyffrous yn ei chwe oriel, ei gaffi a'i ystafell gyfarfod, a'r rheini'n dangos y celfyddyd gyfoes gorau yng Nghymru ac o amgylch y byd. Nid oes gan MOSTYN gasgliad ei hun ond mae'n cynnig amrywiaeth eang o arddangosfeydd sy'n newid o dymor i dymor ac sy'n amrywio o sioeau thematig mawr i brosiectau bach sy'n benodol i'r safle.
Dysgu, Cynnwys a Chymryd Rhan
Mae gan MOSTYN raglen eang iawn sy'n llawn dychymyg ar gyfer gweithgareddau dysgu a chymryd rhan. Maent wedi'u hanelu at ysgolion, colegau, prifysgolion, grwpiau ieuenctid ac anghenion arbennig ac unigolion a dysgwyr gydol oes.
Siop
Mae ein siop yn cynnwys nifer helaeth o eitemau wedi'u gwneud â llaw yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol gan artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes – rhai wedi sefydlu eu hunain ers tro ac eraill yn newydd. O waith cerameg, tecstiliau, eitemau gwydr a gemwaith gwerth ei weld i eitemau defnyddiol ar gyfer y cartref a stoc werth chweil o gylchgronau a llyfrau sy'n ymwneud â chelf, siop MOSTYN yw'r lle delfrydol i ddod o hyd i anrheg arbennig i rywun - neu i brynu rhywbeth bach i chi'ch hun!
Llogi'r Adeilad a'r Caffi