#Mae Celf yn Hanfodol: Ymgyrch ledled y DU i godi proffil y celfyddydau gweledol
Yn ddiweddar, cymerasom ran yn lansiad ymgyrch ‘Mae Celf yn Hanfodol’ ledled y DU gyda’r nod o wneud yn wirioneddol weladwy bwysigrwydd celf weledol ym mywydau pawb
Rydym eisiau orlifo'r rhyngrwyd gyda negeseuon cadarnhaol o gefnogaeth i gymuned y celfyddydau gweledol a'i effaith bellgyrhaeddol ar fywydau pawb.
Dywedwch wrthym ar y cyfryngau cymdeithasol pam #MaeCelfynHanfodol i chi, eich sefydliad, eich rhwydwaith, eich iechyd a'ch lles, eich hunaniaeth, eich incwm neu'ch ymdeimlad o hunan.
Defnyddiwch yr hashnod #MaeCelfynHanfodol, ychwanegwch ddelwedd sy'n helpu i ddweud eich stori neu rhannwch y graffig Mae Celf yn Hanfodol, a dangos effaith celf yn eich bywyd. Byddwch mor greadigol ag y dymunwch; byddwn yn rhannu detholiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol..
Gallwch lawrlwytho’r graffeg #MaeCelfynHanfodol ar gyfer Facebook, Twitter ac Instagram yma (fersiwnau Gymraeg ar gael yma)
Darganfyddwch fwy am yr ymgyrch yma
Gwyliwch y fideo lansio yma (iaeth Saesneg yn unig)