Trwy garedigrwydd Montez Press Radio
- Digwyddiad Digidol
Montez Press Radio
28 Mehefin 2020
28 Mehefin 2020, 4:00pm to 8:00pm
Rydym yn falch o gyflwyno'r ail ddarllediad yn ein cydweithrediad â ‘Montez Press Radio’ - cyfres o gyfweliadau, sgyrsiau, darlleniadau a sain gan artistiaid, ysgrifenwyr, cyhoeddwyr, cerddorion ac actifyddion. Yng ngoleuni'r heriau cyfredol a wynebir ar draws y byd ac o fewn y sector celf, mae'r gyfres hon yn ceisio meithrin ymdeimlad o ddeialog barhaus a chymuned.
Mae'r rhaglen yn cynnwys darllediadau newydd a deunydd o archif Montez Press Radio. Bydd y darllediadau yn cael eu darlledu ar ddydd Sul olaf bob mis o fis Mai tan fis Awst (31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst) o 4-8pm BST (GMT +1)
Ymhlith y cyfranwyr, gydag enwau eraill i’w cyhoeddi’n fuan, fydd: A.M.Bang, Christiane Blattmann, Jacqueline de Jong, Jack Burton, Caribic Residency, Juliette Desorgues, Olivia Erlanger, Endangered Languages Project, Attilia Fattori Franchini, Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė, Cinzia Mutigli, New Latin Wave, Athena Papadopoulos, Hannah Regel, Erica Scourti, Zoë Skoulding, Joe Walsh, Yellow Back Books (Becca Thomas, Louise Hobson, Freya Dooley & Clare Charles).
***
Amserlen: Dydd Sul 28 Mehefin 2020 o 4.00pm
Gwrandewch yma: https://radio.montezpress.com/#/schedule
ER SYLW: Bydd peth o'r cynnwys yn Montez Press Radio efallai ddim yn briodol ar gyfer cynulleidfa iau.
4.00pm: New Latin Wave: Extrañamiento: Estrangement
5.00pm: Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė: YGRG169 reads Bloodchild by Octavia Butler
Mae Young Girl Reading Group yn brosiect gan y deuawd artist Dorota Gawęda ac Eglė Kulbokaitė, a ddaeth i fodolaeth fel grŵp darllen wythnosol gwirioneddol yn eu fflat ym Merlin yn 2013. Ers hynny, o dan y prosiect perfformio cyfresol estynedig hwn, mae'r artistiaid wedi trefnu mwy na 160 o grwpiau darllen a pherfformiadau ar gyflymder parhaus ac mewn amrywiaeth fawr o leoliadau.
Deuawd artist wedi'i leoli yn Basel (CH) yw Dorota Gawęda (g. 1986, PL) ac Eglė Kulbokaitė (g. 1987, LT).
6.00pm: Endangered Languages Project
Mae dros 7,000 o ieithoedd yn cael eu siarad ar y ddaear heddiw, ond mae bron i hanner ohonyn nhw mewn perygl o dawelu yn fuan. Yn union fel bioamrywiaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol, mae amrywiaeth ieithyddol yn wynebu argyfwng digynsail - ond mae gobaith a gwrthsafiad yn tyfu ledled y byd.
Ymunwch ag Anna Belew o’r Prosiect Ieithoedd mewn Perygl am gyfres sy'n archwilio ieithoedd y byd sydd mewn perygl, y ffyrdd maen nhw’n rhoi llais i'r meddwl a'r ysbryd dynol, yr hyn maen nhw’n ei olygu i'w siaradwyr, ac astudiaethau achos o sut mae cymunedau brodorol a lleiafrifol yn brwydro nôl yn erbyn y lluoedd sy'n ceisio eu tawelu.
7.00pm: Jack Burton: Caneuon gan y Dyn Sianti
Awr o siantiau môr! Edrych i mewn i hanes y genre, a sut roedd y caneuon yma yn adlewyrchu bywydau'r dynion oedd yn gweithio ar y llong. Cynnwys o recordiau gwasg bach a gasglwyd gan Jack Burton a'i thad, a chaneuon adnabyddus eraill, gyda sgyrsiau rhyngddynt. Bydd y pynciau sy'n cael ei ymdrin trwy'r caneuon yn amrywio o hiraeth i yfed, ac yn edrych i mewn i rolau pobl ar fwrdd llong, fel y Dyn Sianti, a fyddai'n arwain yr alwad a'r ymateb yn llawer o'r caneuon.
Magwyd Jack Burton yn y Barri, De Cymru, ac mae bellach yn byw ym Mrwsel, Gwlad Belg. Mae'n artist sy'n gweithio gyda phaentio a ffotograffiaeth.
8.00pm: Ceyda Oskay gyda Plumen, Ibrahim Noori, Mohammed Khan, Abubakar Mohamed, Eyob, Ash, Andualem, Olufemi Daniel, Marcos and others: Sleepdust: Uber drivers singing lullabies (London, March 2019)
Recordiadau o wahanol yrwyr yn canu hwiangerddi Ceyda, yn ôl y gofyn, pan dorrodd ei choes a chael llawdriniaeth, a dibynnodd ar yr Uber’s i fynd i/o’r MigrationMuseum yn Llundain. Mae'n fyfyrdod ar ble mae'r ymfudo, gan fod y gyrwyr i gyd yn wreiddiol o wahanol leoliadau ar draws y byd.
Mae Ceyda Oskay yn arlunydd ac yn weithiwr dyngarol. Daeth y gyrwyr o gefndiroedd, proffesiynau ac addysg amrywiol.
Mae’r cydweithrediad â Montez Press Radio yn rhan o raglen ddigidol EDGE MOSTYN a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.