Montez Press Radio

delwedd Montez Press Radio
Trwy garedigrwydd Montez Press Radio
  • Digwyddiad Digidol

Montez Press Radio

30 Awst 2020
30 Awst 2020, 3:00pm to 7:00pm
Rydym yn falch o gyflwyno'r pedwerydd darllediad yn ein cydweithrediad â ‘Montez Press Radio’ - cyfres o gyfweliadau, sgyrsiau, darlleniadau a sain gan artistiaid, ysgrifenwyr, cyhoeddwyr, cerddorion ac actifyddion. Yng ngoleuni'r heriau cyfredol a wynebir ar draws y byd ac o fewn y sector celf, mae'r gyfres hon yn ceisio meithrin ymdeimlad o ddeialog barhaus a chymuned.
 
Bydd y darllediadau yn cael eu darlledu ar ddydd Sul olaf bob mis o fis Mai tan fis Awst (31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst) o 3-7pm BST (GMT +1)
 
Amserlen: Dydd Sul 30 Awst 2020 o 3.00pm
 
ER SYLW: Bydd peth o'r cynnwys yn Montez Press Radio efallai ddim yn briodol ar gyfer cynulleidfa iau.
 
3.00pm: Zoë Skoulding
Mae casgliad barddoniaeth Zoë Skoulding Footnotes to Water, enillydd Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn Cymru 2020, yn dychmygu afon fel toriant trawslin, gan dorri trwy ofodau trefol a gwledig, gan gysylltu lleoedd sydd eu hunain mewn fflwcs. Mae'n olrhain llwybr dirgel Afon Adda gladdedig ym Mangor, Gogledd Cymru, gan fynd i mewn i sgyrsiau gyda'r ddinas a'i gorffennol yn ogystal â gyda sain yr afon ei hun, wedi'i hanner glywed o dan blatiau metel y siambrau arsylwi ar hyd ei llwybr. Mae'r perfformiad hwn, mewn cydweithrediad â'r artist sain Alan Holmes, yn cyfuno barddoniaeth â recordiadau maes, lleisiau dolennog a darnau cyfweliad, ac mae'n cynnwys cerdd yn Gymraeg gan y gwestai arbennig Siân Melangell Dafydd.
 
4.00pm: Christelle Oyiri (aka CRYSTALLMESS): Fury in Tremolo
Gludwaith o seinweddau a darlleniadau o destunau «Afropessimist» gan Fanta Sylla, Frank Wilderson III, Sadiya Hartman.
 
5.00pm: Endangered Languages Project - Voices of Resilience

6.00pm: Studio Cybi (Rebecca Gould and Iwan Lewis): Twmpath
Mae'r segment hwn gan Studio Cybi, llwyfan curadurol wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru dan arweiniad yr artistiaid Iwan Lewis a Rebecca Gould, yn cynnwys synau o'r oes rêf a sain wedi'i chymryd yn uniongyrchol o'r dirwedd. Ystyr y gair Cymraeg ‘twmpath’, yw crugyn neu lawnt y pentref lle, yn draddodiadol, byddai cerddorion yn difyrru’r gymuned, gan ddod â golygfa rêf y 90au a ddigwyddodd yn yr ardal i’r cof. Nod 'Twmpath' yw ailgynnau'r cyd-eferwad a brofir yma, gan geisio cwestiynu rôl celf a'i strwythurau yng nghyd-destun heddiw.
 
7.00pm: Podge: Mix
Cymysgedd o ailgymysgiadau a gwaith gwreiddiol o Podge gyda rhai o hoff alawon Podge i gyd-fynd.
Mae Podge yn arlunydd electronig o'r DU sy'n cymryd dylanwad o amrywiaeth fawr o gerddoriaeth, ynghyd â chariad at ddiwylliant Japan, i greu pot toddi egnïol o arddulliau cerddorol.
 
**
Mae Montez Press yn gwmni cyhoeddi a gorsaf radio sy’n cael ei redeg gan artistiaid ac yn gweithredu rhwng Llundain, Hamburg, Efrog Newydd a Brwsel. Caiff ei weld fel trydydd iteriad ysbrydol Lola Montez (Lola, Maria, Mario). Cafodd Montez Press ei sefydlu yn 2012, ac ers hynny, mae wedi cyhoeddi testunau sy’n ysgrifennu yn erbyn moddau beirniadol cyfredol a dogmâu damcaniaethol sy'n llywio ffordd y mae’r economi wybodaeth gyfoes yn gweithio.