Trwy garedigrwydd Montez Press Radio
- Digwyddiad Digidol
Radio Montez Press
31 May 2020
31 Mai 2020, 3:00pm to 7:00pm
Mewn cydweithrediad â MOSTYN, bydd Montez Press Radio yn lansio cyfres o gyfweliadau, sgyrsiau, darlleniadau a sain gan artistiaid, awduron, cyhoeddwyr, cerddorion a selogion. Yng ngoleuni'r sialensiau cyfredol sy’n wynebu pobl ledled y byd ac o fewn y sector celfyddydol, mae'r gyfres hon yn ceisio meithrin ymdeimlad o ddeialog a chymuned barhaus.. Mae'r rhaglen yn cynnwys darllediadau newydd a deunydd o archif Montez Press Radio. Bydd y darllediadau yn cael eu darlledu ar ddydd Sul olaf bob mis o fis Mai tan fis Awst (31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst) o 3-7pm BST (GMT +1)
Amserlen: Dydd Sul 31 May 2020
Gwrandewch: https://radio.montezpress.com/#/schedule
Please note times shown on Montez Press Radio website are EST (Eastern Standard Time)
3.00pm: Juliette Desorgues, Christiane Blattmann, a A.M. Bang: Beth ydy MPR x MOSTYN?
Bydd A.M.Bang a Christiane Blattmann yn sgwrsio gyda Juliette Desorgues, Curadur Celfyddydau Gweledol MOSTYN ynglŷn â’r cydweithio rhwng Montez Press Radio a’r oriel celf gyfoes o Gymru. Sut mae llunio ymdeimlad o ddeialog ac undod yn ystod y cyfnod hwn? Sut gall cymunedau lleol gyfathrebu â'r byd-eang? Beth mae cymuned yn ei olygu mewn cyfnod o argyfwng? Pa rôl gall radio ei chwarae yn y cyd-destun cyfredol hwn?
3.30pm: Prosiect Ieithoedd mewn Perygl gydag Anna Belew: Voices of Resilience: Fighting for the World's Endangered Languages
Mae dros 7,000 o ieithoedd yn cael eu siarad ar y ddaear heddiw, ond mae bron i hanner ohonyn nhw mewn perygl o dawelu yn fuan. Yn union fel bioamrywiaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol, mae amrywiaeth ieithyddol yn wynebu argyfwng digynsail - ond mae gobaith a gwrthsafiad yn tyfu ledled y byd.
Ymunwch ag Anna Belew o’r Prosiect Ieithoedd mewn Perygl am gyfres sy'n archwilio ieithoedd y byd sydd mewn perygl, y ffyrdd maen nhw’n rhoi llais i'r meddwl a'r ysbryd dynol, yr hyn maen nhw’n ei olygu i'w siaradwyr, ac astudiaethau achos o sut mae cymunedau brodorol a lleiafrifol yn brwydro nôl yn erbyn y lluoedd sy'n ceisio eu tawelu.
4.00pm: Caribic Care (Caribic Residency): GP
Myfyrio drwm ar ffasgia, trawma, poen cronig, pethau dienw, cymhlethdod anfeidrol y corff, poen fel emosiwn, triniaeth bio-seico-gymdeithasol, hunan-rymuso, bioleg cred, gofalu amdanoch eich hun, uniaethu â'ch gilydd mewn ffyrdd nad ydynt yn neo-ryddfrydol.

Mae Gofal Caribic yn ddull gofal iechyd a grëwyd gan artistiaid, ac nid meddygon. Rydym yn canolbwyntio ar sut mae gwaith yr artist yn troi’n ofod iachâd a gofal, gan archwilio potensial celf fel gwasanaeth.
5.00pm: Attilia Fattori Franchini and Olivia Erlanger: Bloody Marys
Gan ddefnyddio’r broses o wneud Bloody Mary fel man cychwyn i edrych ar y cysyniad o amser hylifol yn ystod y cyfnod cloi, a’r cysylltiad â chymdeithas Americanaidd a phethau Americanaidd, bydd Attilia Fattori Franchini yn trafod gydag Olivia Erlanger am ei gwaith a'i chrefft, y cyfnod presennol, symudedd yn y dyfodol, eco-ddyfodoliaeth, afiaith a sut gall cynhyrchwyr diwylliannol gychwyn ffyrdd o wrthsefyll.

6.00pm: Athena Papadoplolous: Reciting
Mae Athena Papadopoulos, sy’n arddangos yn MOSTYN ar hyn o bryd, yn adrodd detholiad o dri o'i llyfrau yn gymysg â chaneuon torcalonnus sy’n gweithredu fel toriadau/atalnod, gan dorri ei thri thestun ar wahân, 'A Tittle-Tattle-Tell-a-Tale Heart' (2018), 'The Apple Nun' (2019) ac i gloi 'Cain and Abel Can't and Able' (2020).