Bydd arddangosfeydd MOSTYN ar gau dros dro o Ddyd Sadwrn 5 Rhagfyr 2020
Mae siop a’r caffi ar agor fel arfer
Oherwydd y cyfyngiadau newydd sydd ar ddod yng Nghymru, bydd ein harddangosfeydd cyfredol gan Nick Hornby, Richard Wathen, a Hannah Quinlan a Rosie Hastings yn cau dros dro am 4yp ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020. Bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu gan Lywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr, ac rydym yn mawr obeithio gallu ailagor yn ddiweddarach yn y mis.
Bydd ein siop a chaffi yn aros ar agor fel arfer, o ddydd Mawrth i Sul, 11yb – 4yp
Ar gyfer ein harddangosfeydd tymhorol y gaeaf hwn, rydym wedi dewis rhai o'r crefftwyr a'r artistiaid gorau sy'n gweithio yng Nghymru a'r Ffiniau. O waith coed i ddillad wedi’u gwau, o waith enamel i lestri gwydr, gwaith celf wreiddiol, argraffiadau cyfyngedig o brintiau ac amrywiaeth hardd o eitemau cyfoes wedi'u saernïo â llaw ar gyfer eich cyllideb, gwyddom y byddwch yn dod o hyd i rywbeth y byddwch wrth eich bodd yn ei roi fel rhodd. Os ydych chi'n cael trafferth dewis, talebau rhodd MOSTYN yw'r ateb delfrydol.
Rydym yn cefnogi cannoedd o wneuthurwr annibynnol a busnesau bach yn ein siop ac, fel elusen gofrestredig, mae incwm a gynhyrchir yn cael ei buddsoddi yn ôl i’n rhaglen uchelgeisiol o arddangosfeydd a digwyddiadau.
I fyny'r grisiau, mae ein 'Caffi Oriel' golau, mawr yn cynnig lle unigryw i fwynhau ystod wych o fwyd a diodydd, gan gynnwys coffi gwych wedi'i rostio'n lleol. Mae ein bwydlen ffres, ysgafn yn cynnwys cawliau, stiwiau, saladau, brechdanau, wraps a bagels, gan gynnwys digon o opsiynau fegan a heb glwtyn. Ac wrth gwrs mae yna bob amser amrywiaeth o gacennau gwych!
Mae'r caffi yn gwbl hygyrch, gyda digon o le ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, a golygfeydd i'r môr o'r ffenestri bae hyfryd. Mae'n lle delfrydol i ymweld gyda'r teulu, cwrdd â ffrindiau, cynnal cyfarfod anffurfiol, dod i wneud ychydig o waith mewn heddwch neu gael seibiant haeddiannol.
Gallwch fod yn sicr fod iechyd ein staff a'n hymwelwyr yn parhau i fod ein blaenoriaeth uchaf. Ymweld â MOSTYN yn ystod Coronavirus
Am newyddion a diweddariadau dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i'n rhestr bostio yma.
2 Rhagfyr 2020