Comisiwn ffenestr Nadolig blynyddol ym MOSTYN

llun o'r fenestr Nadolig

Comisiwn ffenestr Nadolig blynyddol ym MOSTYN

Ding Ding Designs


Yn dilyn galwad genedlaethol i artistiaid a gwneuthurwyr, mae ffenestri hardd art-nouveau y siop ym MOSTYN yn Stryd Vaughan Llandudno unwaith eto yn gartref i ddyluniad buddugol comisiwn ffenestri Nadolig blynyddol yr oriel.

Mae'r arddangosfa gan y dylunydd o Nottingham, Jenna Round o Ding Ding Designs, a fydd yn cael ei harddangos tan ddechrau mis Ionawr, yn gip modern ar atgofion Jenna o hongian yr addurniadau yn nhŷ ei nain a thaid ac mae'n atgoffaol o'r oferbethau gwydr bregus, mewn lliwiau llachar a siapiau rhyfedd, o'r 1950au a'r 1960au.

Wrth ennill y comisiwn, dywedodd Jenna: Roeddwn i eisiau creu arddangosfa hynod liwgar, rhywbeth sy'n bywiogi diwrnod pob pasiwr ac yn galw atgofion o addurniadau llawen. Byddai'n hyfryd pe bai, yn y dyfodol, dod i weld y ffenestr wych ym MOSTYN yn dod yn rhan arall o draddodiad Nadolig pob teulu.

Bob blwyddyn mae MOSTYN yn gwahodd cynigion ar gyfer dylunio’r arddangosfa Nadolig, ac mae enillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i ennill comisiynau yn Liberty, Llundain, Manchester City Gallery a'r Craft Council.

Dywedodd Rheolydd Manwerthu MOSTYN, Barry Morris: Cefais fy nhynnu at y lliwiau llachar, siapiau chwareus ac elfennau 3D o gynnig Jenna ac mae'r ffenestr orffenedig yn dod â chyffro plentyndod o addurno'r goeden Nadolig. Mae'n edrych yn anhygoel ac yn ychwanegiad croesawgar iawn i'n profiad siopa Nadolig. Mae ein siop yn stocio ystod enfawr o wneuthurwyr talentog felly rydyn ni'n annog pawb i ddod i gefnogi gwneuthurwyr a busnesau bach lleol ac annibynnol eleni. Fel elusen gofrestredig, mae'r holl elw o siop MOSTYN yn cefnogi rhaglenni arddangos ac ymgysylltu yr oriel.