Comisiwn Ffenestr Nadolig MOSTYN

'Gifts for all' Gill Prendergast 2018 [Photo: Dilys Thompson]

Comisiwn Ffenestr Nadolig MOSTYN

Galw’r Creadigol!

Mae prif oriel gelf gyfoes Cymru yn gwahodd cynigion am arddangosfa ffenestr Nadolig syʼn rhoi cyfle i artistiaid/dylunwyr/gwneuthurwyr i addurno dwy ffenest steil art noveau ym MOSTYN.

Ydych chi yn ddylunydd/wneuthurwr llawn dychymig a syniadau am sut i arddangos eich gwaith? Rydym yn gwahodd cynigion gennych ar sut y buasech yn creu arddangosfa drawiadol yn ymgorffori peth oʼch gwaith eich hun o fewn gofod o gryn faint. Maeʼn rhaid iʼr eitemau oʼch gwaith ellir eu gwerthu, iʼw gytuno gydaʼr Rheolydd Manwerthu.

Neu oes gennych chi syniadau am arddangos nwyddau yn weledol? Ydych chi yn unigolyn gyda syniadau creadigol aʼr gallu i gynhyrchu arddangosfa drawiadol fuasai yn cynnwys nwyddau oʼr siop? Rydym yn eich gwahodd i greu arddangosfa weledol drawiadol. Maeʼr cyfle yma yn golygu gweithioʼn agos gydaʼr Rheolydd Manwerthu i benderfynnu pa eitemau o stoc sydd iʼw arddangos.

Briff llawn a manylion ar sut i wneud cais ar gael i'w lawrlwytho yma neu e-bost: [email protected].

Dyddiad cau: 5.30yn 8fed Medi 2019.

[Llun: Dilys Thompson]