
Cyfle ôl-raddedig - Curadur Digidol Cyfryngau a Chynnwys
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil MPhil/PhD wedi ei chynllunio i ymchwilio a nodi’r cynnwys digidol sy'n bodoli eisoes a dylunio methodoleg i adeiladu llwyfannau newydd i ddatblygu a churadu allbynnau digidol yn y dyfodol.
Mae’r MPhil/PhD wedi’i ariannu’n 80% CALl (cyfwerth ag amser llawn) am 3 blynedd, ffioedd LlA a 20% cyflog CDG CALl (I diwrnod/wythnos) ar gael gan y Brifysgol a MOSTYN.
Nod y prosiect yw:
- nodi ffyrdd y mae technoleg ddigidol yn mynd y tu hwnt i strwythurau confensiynol arddangos ac ymgysylltu
- ail-asesu ymagweddau at y digidol e.e. fel rhywbeth 'ychwanegol at y brif peth'
- canfod yr effaith ar y ffordd y mae sefydliad a chynulleidfaoedd yr oriel yn ymaddasu i'r ffenomena uchod
- datblygu dealltwriaeth o gynnwys digidol sy'n bodoli eisoes o safbwynt y sefydliad a safbwynt cynulleidfa
- rhoi llinyn rhaglen ddigidol o weithgareddau ac arbrofion ar waith e.e. cychwyn preswyliadau digidol ar gyfer artistiaid a thechnolegwyr
- sefydlu sylfaen archif ac adnoddau digidol chwiliadwy a fydd yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer ymchwil yn y dyfodol
- integreiddio cysylltiadau a dangos ymgysylltu/ymateb y gynulleidfa
Bydd yr ymchwil hwn yn adeiladu ar ôl-troed digidol presennol MOSTYN a’r sylfaen tystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd o’i rhaglen o weithgareddau er mwyn ailffurfio canfyddiad a dealltwriaeth. Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant ym mhob agwedd berthnasol ar y broses ymchwil.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect lawrlwytho'r wybodaeth lawn yma, cysylltwch â’r Athro Alec Shepley [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20fed Rhagfyr 2016,